Cyfarfod i drafod carchar Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Carchar Wrecsam
Disgrifiad o’r llun,

Dyma sut fyddai'r carchar yn edrych, yn ôl pob tebyg

Bydd cyfarfod agored yn cael ei gynnal yn hwyrach i roi cyfle i bobl Wrecsam roi eu barn am y cynllun i agor carchar anferth yno.

Cyngor Cymunedol Abenbury sydd wedi trefnu'r cyfarfod, ac mae'r cadeirydd Ray Squire yn dweud fod croeso i bawb fynychu'r digwyddiad, wedi cwyn nad oedd digon o hysbysu am ddigwyddiadau'r Weinyddiaeth Amddiffyn.

Fe wnaeth y Weinyddiaeth Amddiffyn gadarnhau ddechrau mis Medi y byddai'r carchar yn cael ei adeiladu ar hen safle'r ffatri Firestone ar stad ddiwydiannol y dref, gan greu lle i 2,000 o droseddwyr.

Diffyg hysbysebu

Mae'r cyfarfod wedi ei drefnu wedi i Mr Squire gwyno am drefniadau'r Weinyddiaeth Amddiffyn ar gyfer hysbysu pobl ynglŷn â'u cyfarfodydd nhw.

Yn ôl Mr Squire doedd llawer o bobl ddim yn ymwybodol am y digwyddiadau.

Dywedodd: "Dylen nhw fod llawer mwy agored ynglŷn â gadael i bobl wybod be sy'n digwydd. Dylai bod yr hysbysebu ar gyfer y digwyddiad yna wedi bod yn llawer gwell."

Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi gwadu bod eu trefniadau ddim digon da.

'Dilyn y trefniant'

Dywedodd llefarydd ar eu rhan: "Ysgrifennon at aelodau o'r gymuned gymdogol er mwyn eu hysbysu o'n penderfyniad ac fe wnaethon ni hefyd ofyn i gynghorwyr lleol ddweud wrth drigolion lleol am y datblygiadau.

"Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn gorfod dilyn yr un trefniadau cynllunio ac unrhyw gynnig arall o'r un maint."

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Gymunedol Pentre' Maelor, yn dechrau am 7pm.

Hwn yw cyfle pobl leol i gael dweud eu barn, yn ôl Mr Squire: "Yn ystod yr awr gyntaf bydd y cyngor cymunedol yn gofyn i aelodau o'r cyhoedd am eu barn a'i safbwyntiau am y carchar.

"Wedyn rhwng 8pm a 9pm byddem yn gofyn i gynrychiolwyr o'r Weinyddiaeth Amddiffyn ystyried y materion sydd wedi cael eu codi."

Y disgwyl yw y bydd y gwaith adeiladu yn dechrau yn ystod haf 2014, a bydd y carchar gwerth £250 miliwn yn agor erbyn diwedd 2017.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol