Cynllun i atal llifogydd ym Miwmares, Ynys Môn
- Cyhoeddwyd
Bydd cynllun gwerth £1.3 miliwn i atal llifogydd ym Miwmares yn cael ei arddangos yno ddydd Mawrth.
Mae'r dref glan môr wedi diodde' llifogydd mewn blynyddoedd diweddar oherwydd cyfuniad o law trwm a llanw uchel.
Mae'r cynllun newydd a luniwyd gan Gyngor Sir Ynys Môn yn cynnwys wal newydd ger y môr a llyn naturiol i ddal dŵr glaw.
Er nad oes dim wedi ei benderfynnu'n derfynol, mae warden llifogydd y dref wedi dweud ei fod yn gobeithio gweld y cynllun yn cael ei wireddu.
Bydd yn cael ei arddangos yn neuadd y dref Biwmares o hanner dydd tan 8:00yh ddydd Mawrth, Medi 24.
Dywedodd warden llifogydd Biwmares, Jason Zalot: "Bydd pobl yn medru cysgu'r nos gan wybod fod rhywbeth yn cael ei wneud."
Mae'r cynghorydd tref, sydd hefyd yn rhedeg busnes teuluol cychod pleser, yn dweud bod y cynllun wedi ei greu gan ddefnyddio model cyfrifiadurol o sut y mae'r glaw a'r llanw yn effeithio ar y dref, a beth yw'r ffordd orau o daclo'r broblem.
"Fe ddylai atal 99% o lifogydd yn y dref," meddai Mr Zalot. "Mae'n ffantastig."
Dywedodd Mr Zalot bod llifogydd wedi digwydd ym Miwmares yn y 1950au a'r 1980au cyn i'r broblem godi'i ben eto yn ddiweddar.
Ym mis Rhagfyr y llynedd, cafodd y brif ffordd i'r dref, yr A545, ei chau oherwydd cyfuniad o dywydd drwg a llanw uchel, ac fe gafodd pier Biwmares ei ddifrodi'n ogystal.
Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi cyflwyno cais am gyllid ar gyfer y cynllun i Lywodraeth Cymru.
Unwaith y bydd y cyhoedd wedi cael dweud eu dweud am y cynllun, fe fydd rhaid ei gyflwyno i bwyllgor cynllunio'r awdurdod er mwyn ei gymeradwyo.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2012