Rhybudd am lifogydd

  • Cyhoeddwyd
tonnau
Disgrifiad o’r llun,

Daeth rhybudd am donnau mawr ger yr arfordir

Mae rhybuddion o lifogydd wrth i law trwm 'sgubo ar draws Cymru ddydd Gwener.

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru wedi dweud y dylai pobl sy'n byw ger yr arfordir fod yn wyliadwrus.

"Dylen nhw fod yn ofalus os ydyn nhw'n cerdded neu'n gyrru gan fod tonnau mawr yn debygol.

"Dylai pobl hefyd fod yn ofalus wrth deithio gan y gallai amodau gyrru ddydd Gwener fod yn arbennig o beryglus."

Mae rhew du'n broblem mewn mannau ac mae damweiniau wedi bod yn y gogledd.

'Yn beryglus'

Roedd amodau gyrru'n "beryglus," meddai'r heddlu, oherwydd rhew ar yr A5 rhwng Llangollen a Chorwen.

Caewyd y ffordd yr A494 i'r ddau gyfeiriad rhwng y B5105 (Stryd Mwrog, Rhuthu) a'r A5104 (Clawdd Poncen, Corwen) ond bellach mae wedi ailagor.

Cafodd yr A494 hefyd ei chau am gyfnod rhwng y B5429 (Llanbedr Dyffryn Clwyd) a'r A5119 (Ffordd Rhuthun, Gwernymynydd), gan effeithio ar drafnidiaeth rhwng Rhuthun a'r Wyddgrug, ond mae'r rhan yna o'r ffordd bellach wedi ailagor.

Yn y de rhybuddiodd yr heddlu fod ffyrdd yn siroedd Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful yn "beryglus," yn enwedig ym Merthyr, Aberdâr, Glyn Rhedynog a ffyrdd mynydd y Bwlch a'r Rhigos.

Yn wreiddiol roedd yr asiantaeth wedi cyhoeddi dau rybudd - un ar gyfer Biwmares ar Ynys Môn a'r llall ar gyfer ardaloedd y llanw yn Sir Gaerfyrddin.

Symud

Ond bellach maen nhw'n credu y bydd y glaw trwm yr oedden nhw'n ei ddisgwyl yn y de-orllewin yn symud ymhellach i'r gogledd.

Fe allai hynny achosi llifogydd yn y canolbarth a rhannau o'r gogledd.

Dywedodd llefarydd ar ran yr asiantaeth fod y tir yn dal yn wlyb iawn wedi llifogydd blaenorol mewn sawl man.

Yn ôl y rhagolygon, bydd y glaw yn lleihau dros y penwythnos ond fe allai'r cyfuniad o lanw uchel a gwyntoedd cryfion achosi llifogydd o hyd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol