Ymgyrch i 'gynnal enw da cig Cymreig'

  • Cyhoeddwyd
Cig
Disgrifiad o’r llun,

Mae statws Cig Eidion Cymreig a Chig Oen Cymreig wedi ei ddiogelu gan y Comisiwn Ewropeaidd

Bydd ymgyrch yn cael ei chynnal dros y misoedd nesa' i geisio sicrhau fod cig sy'n cael ei werthu fel cig Cymreig yn dod o Gymru.

Bydd swyddogion safonnau masnach yn ymweld â thai bwyta, gwestai, caffis a siopau er mwyn gweld a yw cig oen a chig eidion wedi ei labelu'n gywir a sicrhau nad yw cwsmeriaid yn cael eu camarwain.

Mae Hybu Cig Cymru (HCC), sy'n gyfrifol am frandiau Cig Oen a Chig Eidion Cymreig, yn croesawu'r ymgyrch, a byddan nhw'n cydweithio gyda swyddogion yr awdurdodau lleol, sydd â'r grym i orfodi'r ddeddf.

Mae statws y ddau fath o gig wedi'i ddiogelu gan y Comisiwn Ewropeaidd, sy'n golygu mai dim ond defaid a gwartheg sydd wedi'u magu yng Nghymru ac sydd wedi'u prosesu mewn lladd-dai sydd wedi'u cymeradwyo gan HCC all gael eu disgrifio yn 'Gymreig'.

Anghyfreithlon

Y nod yw cynnal enw da cig Cymreig a sicrhau nad yw cigoedd israddol yn cael eu camlabelu.

Mae'n anghyfreithlon disgrifio unrhyw gig sydd ddim yn cwrdd â'r amodau fel cig Cymreig.

Meddai Gwyn Howells, prif weithredwr HCC: "Mae'r sgandal cig ceffyl wedi dangos sut mae modd tanseilio hyder y cyhoedd trwy gamlabelu bwydydd yn anghyfreithlon.

"Ond mae camlabelu'n golygu mwy na chyfnewid cig eidion am gig ceffyl. Gall hefyd olygu ceisio gwerthu cynnyrch israddol, rhatach fel un o well ansawdd - tra'n dal i godi'r un pris uchel.

"Mae Cig Oen Cymreig a Chig Eidion Cymreig yn cael eu cynhyrchu i'r safon ucha' gan ein ffermwyr a'n proseswyr ac maent, yn haeddianol iawn, wedi ennill enw da nid yn unig yn y DU ond ar draws y byd.

"Ond yn anffodus, pob tro mae 'na gynnyrch o ansawdd ar gael mae 'na rai pobl sydd eisiau gwneud arian yn sydyn trwy gyfnewid y cynnyrch am rywbeth sydd nid yn unig yn rhatach ond hefyd yn israddol.

"Mae hyn nid yn unig yn taro poced y cwsmer, ond mae hefyd yn niweidio enw da Cig Oen Cymreig a Chig Eidion Cymreig os nad yw'r pryd yn cwrdd â'r disgwyliadau," meddai Mr Howells.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol