Bwyd: Pob cyngor yn 'cymryd camau'

  • Cyhoeddwyd
Farmbox Meats Ltd, Llandre ger AberystwythFfynhonnell y llun, Athena Pictures
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Farmbox Meats, Llandre yn un o ddau safle a gafodd eu harchwilio ddydd Mawrth

Mae pob cyngor yng Nghymru wedi dweud wrth BBC Cymru eu bod nhw'n cymryd camau i sicrhau bod bwyd mewn ysgolion, ysbytai a chartrefi yn ddiogel.

Mae rhai wedi bod yn profi bwydydd penodol tra bod eraill yn gwneud ymholiadau gyda chyflenwyr.

Mae un cwmni sy'n cyflenwi bwydydd ysgolion yn Ynys Môn wedi tynnu peth cig eidion o'r fwydlen i fod yn rhagofalus.

Ac mae labordy yng Nghaerdydd yn gweithio ddydd a nos i gynnal profion ar fwydydd i weld a oes cig ceffyl ynddynt.

Mae cwmni Minton, Treharne & Davies Ltd, yn profi samplau a anfonwyd gan fanwerthwyr, swyddogion safonau masnach a chyflenwyr sy'n darparu bwyd i ysgolion a chartrefi gofal.

Mae'n medru cymryd hyd at bedwar diwrnod gwaith i brofi un sampl mewn labordy.

2,501 o brofion

Yn y cyfamser, mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi cyhoeddi canlyniadau 2,501 o brofion ar gynnyrch cig eidion.

Roedd 29 o brofion wedi dod o hyd i fwy na 1% o gig ceffyl.

Mae'r archfarchnadoedd Tesco, Iceland, Co-op, Morrisons a Sainsbury's wedi dweud nad yw profion wedi dod o hyd i DNA ceffyl yn eu cynnyrch nhw.

Ond mae'r cwmni tafarndai, Whitbread, a'r cyflenwr ysgolion Compass Group wedi dod o hyd i gig ceffyl yn rhai o'u prydau nhw.

Dywedodd prif weithredwr yr asiantaeth Catherine Brown mai cynnal profion oedd y ffordd orau o ddelio â'r broblem.

"Bydd angen cryn amser cyn i'r broses ddod i ben ac mae'n gostus.

"Ond cyfrifoldeb y diwydiant - nid y llywodraeth - yw cymryd y camau cywir ac mae rhaglen brofi gynhwysfawr sy'n ymwneud â phob rhan o'r gadwyn gyflenwi'n hanfodol.

'Annerbyniol'

"Mae'r canlyniadau'n dangos nad yw'r mwyafrif llethol o gynnyrch cig eidion yn cynnwys cig ceffyl.

"Mae 'na enghreifftiau wedi bod ac maen nhw'n annerbyniol. Ond eithriadau ydyn nhw.

"Wrth i'r rhaglen brofi fynd yn ei blaen ac wrth i gamau gael eu cymryd i fynd i'r afael â'r sefyllfa yng nghadwyni cyflenwi Ewrop byddwn ni'n gallu dweud nad yw cig ceffyl yn gallu mynd i mewn i gadwyn gyflenwi y Deyrnas Gyfunol yn anghyfreithiol."

Nos Iau cyhoeddwyd fod tri o bobl wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â'r ymchwiliad.

Cafodd y tri eu harestio ar amheuaeth o droseddau'n ymwneud â'r Ddeddf Dwyll ac roeddynt yn cael eu holi yng ngorsaf heddlu Aberystwyth.

Yn Farmbox Meats ger Aberystwyth cafodd dyn 64 oed a dyn 42 oed eu harestio. Mae'r BBC yn deall taw un ohonyn nhw yw'r perchennog, Dafydd Raw-Rees.

Cafodd dyn arall 63 oed ei arestio mewn lladd-dy yn Todmorden yn Sir Efrog.

Gwadu

Roedd y ddau safle wedi cael eu harchwilio a'u cau lawr dros dro ddydd Mawrth, wedi i'r Asiantaeth Safonau Bwyd ddweud eu bod wedi mynd â chig a gwaith papur oddi ar y ddau safle i'w harchwilio.

Eisoes mae'r ddau gwmni wedi gwadu eu bod wedi gwneud unrhyw beth o'i le.

Yn y cyfamser, cyhoeddodd archfarchnad Asda nos Iau eu bod wedi tynnu poteli saws bolognese eidion 500 gram oddi ar eu silffoedd wedi i brofion ddatgelu olion DNA ceffyl.

Fe ymddiheurodd y cwmni gan ddweud eu bod wedi tynnu pob cynnyrch gan y cyflenwyr dan sylw oddi ar eu silffoedd.

Bute

Daeth i'r amlwg ddydd Iau y gallai peth cig ceffyl sy'n cynnwys meddyginiaeth filfeddygol o'r enw phenylbutazone - neu "bute" - fod wedi mynd i'r gadwyn fwyd.

Cafodd y cyffur, allai fod yn beryglus i iechyd y cyhoedd, ei ddarganfod mewn wyth o 206 o geffylau a brofwyd ddechrau'r mis.

Wrth gyhoeddi canlyniadau'r profion bute yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Iau, dywedodd y gweinidog amaeth David Heath fod Llywodraeth y DU wedi lansio eu "hymchwiliad mwya' erioed" i weithgaredd troseddol yn Ewrop yn ymwneud â chamlabelu cig.

Ddydd Gwener, galwodd aelod seneddol Ogwr, Huw Irranca-Davies am gyfundrefn reoleiddio ar gyfer Ewrop gyfan.

"Un o'r pethau sydd wedi dod i'r amlwg yn ystod yr wythnosau diwethaf ar fater bute yw bod ymgynghorwyr y llywodraeth wedi dweud wrthyn nhw fod bute wedi bod yn mynd i'r gadwyn ladd cig o fewn y DU ac wedi ei allforio, ac mae hi wedi cymryd hyd at saith mis i'r wybodaeth honno i gyrraedd nôl i'r FSA. Mae hynny'n hollol ofnadwy."

"Felly mae yna bwnc fan hyn ar gyfer yr asiantaethau gorfodaeth lleol, a'r llywodraeth, a'r asiantaethau sy'n atebol iddi, ond mae'n rhaid gweithredu ar lefel Ewrop gyfan, achos rydyn ni'n gwybod ein bod yn dilyn cynnyrch sy'n mynd o Ffrainc, Romania, yr Eidal, Sbaen, ac wedyn yn diweddu mewn cynnyrch ar silff archfarchnad ym Mhrydain."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol