Oedi i gytundebau rygbi oherwydd ffrae Cwpan Ewrop

  • Cyhoeddwyd
Sam WarburtonFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae cytundeb presennol y blaenasgellwr yn dod i ben ar ddiwedd tymor 2013-14.

Dydy Gleision Caerdydd ddim mewn sefyllfa i gynnig cytundeb newydd i'r blaenasgellwr Sam Warburton oherwydd yr ansicrwydd am ddyfodol cystadleuaeth Cwpan Ewrop.

Mae Capten y Llewod, 24, wedi dweud eisoes ei fod eisiau aros gyda'r rhanbarth.

Yn ôl ei asiant, Derwyn Jones, fe ddywedodd Warburton wrth y Gleision bum wthnos yn ôl ei fod yn barod i wrthod cynnig o dramor er mwyn aros yn y brifddinas.

Mae ei gytundeb yn dod i ben ar ddiwedd y tymor hwn.

Ond mae Jones, cyn glo Cymru, yn dweud nad yw'r Gleision wedi gallu cynnig cytundeb newydd gan bod 'na ansicrwydd am eu cyllid.

'Eisiau aros'

"Mae Sam Warburton wedi dweud wrth Gleision Caerdydd ei fod eisiau aros yng Nghymru'r tymor nesa'," meddai Jones wrth raglen Y Clwb Rygbi.

"Ond dyw'r rhanbarth ddim yn gallu cynnig cytundeb iddo ar hyn o bryd oherwydd y llanast yn Ewrop.

"Dydyn nhw ddim yn gwybod faint o arian fydd ganddyn nhw'r flwyddyn nesa'."

Mae clybiau Lloegr a Ffrainc eisiau tynnu allan o Gwpan Heineken y flwyddyn nesa' ac maent yn awyddus i sefydlu Cwpan Pencampwyr Rygbi yn lle.

Mae'r Uwchgynghrair Aviva a'r 14 clwb ucha' yn Ffrainc yn credu fod y strwythur bresennol yn Ewrop yn ffafrio timau'r Pro12 - sy'n cynnwys timau o Gymru, Yr Alban, Iwerddon a'r Eidal.

Gallai timau'r Pro12 ymuno gyda'r gystadleuaeth newydd, ond byddai undebau rygbi'r gwahanol wledydd yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau, yn ogystal â'r Bwrdd Rygbi Rhyngwladol.

Ansicrwydd ariannol

Mae'r sefyllfa ariannol hyd yn oed yn fwy aneglur yng Nghymru oherwydd bod Undeb Rygbi Cymru wedi awgrymu y gallai nhw gynnig cyfanswm o £1m yn ychwanegol i'r pedwar rhanbarth.

Ond dydy hi ddim yn glir sut fydd yr arian yn cael ei rannu ac os bydd yna gyfyngiadau o ran sut i'w wario.

Dywedodd Derwyn Jones: "Bum wythnos yn ôl fe ddywedon ni wrth URC a Gleision Caerdydd fod Warburton eisiau aros yng Nghymru, ond does dim cytundeb wedi dod oherwydd yr hyn sy'n digwydd yn Ewrop.

"Dim ond hyn a hyn o amser gall hogiau fel Warburton, Leigh Halfpenny ac Adam Jones aros i gael cytundeb, felly mae angen i URC a'r rhanbarthau ddod at ei gilydd a gwneud beth allan nhw er lles rygbi yng Nghymru."

Bydd cytundeb cyd chwaraewr Warburton gyda'r Gleision a'r Llewod, Halfpenny, hefyd yn dod i ben ddiwedd y tymor ac mae sôn wedi bod y gallai symud i glwb Toulon yn Ffrainc.

Mae prop pen tynn y Gweilch, Cymru a'r Llewod, Adam Jones, eisoes wedi dweud y byddai'n ystyried symud i Ffrainc.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol