Halfpenny y dyn delfrydol ar gyfer Toulon meddai Shanklin
- Cyhoeddwyd
Byddai Leigh Halfpenny yn chwaraewr delfrydol i olynu Jonny Wilkinson yn Toulon yn Ffrainc yn ôl cyn chwaraewyr Cymru, Tom Shanklin.
Mae adroddiadau yn Ffrainc wedi cysylltu cefnwr Cymru a'r Llewod gyda'r tîm.
Bydd cytundeb y dyn 24 oed yn dod i ben gyda Gleision Caerdydd ar ddiwedd y tymor gyda nifer o glybiau Ffrengig wedi dangos diddordeb prynu'r chwaraewr.
Colli chwaraewr disglair
"Allwch chi ddim beio'r chwaraewr o gwbl," meddai Tom Shanklin.
"Mae'n bosib y bydd yna safle yn Toulon, yn enwedig ar gyfer ciciwr a dyna yw e am fod Jonny Wilkinson yn gadael ar ddiwedd y tymor.
"Efallai ei fod e yn well na Wilkinson. Mae'n medru cicio yn bellach.
"Mi fydd yn cael effaith negyddol ar y Gleision gan y bydden nhw yn colli chwaraewr o ansawdd."
Mae Halfpenny yn cael ei weld fel chwaraewr disglair wedi ei berfformiadau ar gyfer Cymru a'r Llewod. Cafodd ei enwi yn chwaraewr y Chwe Gwlad yn gynharach eleni ac yn ddyn y gyfres gyda'r Llewod oherwydd iddo chwarae rhan bwysig yn sicrhau buddugoliaeth y tîm yn y gyfres yn erbyn Awstralia.
Cytundebau yn dod i ben
Bydd cytundeb Wilkinson,34 yn dod i ben gyda Toulon ddiwedd y tymor yma ac mae disgwyl iddo ymddeol o'r gêm.
Mae nifer o chwaraewyr eraill Cymru sydd hefyd wedi chwarae gyda'r Llewod yn yr un sefyllfa a Halfpenny gyda'u cytundeb gyda'u clybiau yn dod i ben ddiwedd y tymor. Maent yn cynnwys Sam Warburton, Adam Jones, Jonathan Davies, Ian Evans ac Alun Wyn Jones.
Dywed adroddiadau ym mhapur newydd Midi Olympique y bydd Halfpenny yn ymweld gyda Toulon ddydd Sadwrn er mwyn gweld y cyfleusterau sydd ganddynt ac i drafod cytundeb posib.
Ond mae BBC Cymru yn deall bod yna gymal yng nghytundeb y chwaraewr sydd yn golygu na allith o siarad gyda chlybiau eraill heb ganiatâd y Gleision- oni bai bod tri mis gydag o ar ôl cyn y bydd ei gytundeb yn dod i ben.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2013
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2012