Cwpan Heineken: Apêl i drafod

  • Cyhoeddwyd
ToulonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Toulon yn dathlu ennill Cwpan Heineken yn 2013

Mae prif weithredwr y corff sy'n gyfrifol am redeg Cwpan Heineken - yr ERC - yn mynnu fod y drws yn dal ar agor i drafodaethau allai sicrhau dyfodol y gystadleuaeth.

Mae Premiership Rugby (Lloegr) a Ligue National de Rugby (Ffrainc) yn bwrw 'mlaen gyda chynllun eu hunain y tymor nesaf gan fynnu eu bod yn tynnu allan o Gwpan Heineken a Chwpan Her Amlin.

Mae'r ddau wedi gwahodd timau'r gwledydd Celtaidd a'r Eidal i ymuno â nhw.

Eisoes mae clybiau Lloegr a Ffrainc wedi dweud na fyddan nhw'n cystadlu yng Nghwpan Heineken y tymor nesaf.

Yr wythnos ddiwethaf fe ddywedodd undebau rygbi Cymru, Yr Alban ac Iwerddon na fyddan nhw'n caniatáu i'r timau fod yn rhan o unrhyw gystadleuaeth sydd heb ei chymeradwyo gan y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol (IRB).

Ddydd Llun dywedodd prif weithredwr yr ERC Derek McGrath ei fod yn sicr bod modd datrys yr anghydfod er nad yw hynny'n ymddangos yn debygol ar hyn o bryd.

'Cyfrifoldeb ar bawb'

Mae clybiau Lloegr a Ffrainc wedi dweud na fyddan nhw ymuno yn nhrafodaethau'r ERC ar y mater ar Hydref 23 a 24, ond dywedodd Mr McGrath:

"Mae ERC yn dymuno annog pawb yn ôl at y bwrdd trafod. Mae llawer o weithgarwch yn digwydd er mwyn ceisio canfod ateb.

"Rydym wedi dweud sawl tro ein bod yn credu mai'r unig ffordd o ddatrys hyn yw cael pawb o gwmpas y bwrdd - nid yw hynny wedi digwydd eto.

"Mae amser i ateb y broblem, ond mae cyfrifoldeb ar bawb i ganfod atebion yn enwedig y rhai sydd ddim wrth y bwrdd trafod ar hyn o bryd - cyfrifoldeb i'r cefnogwyr, y chwaraewyr, y noddwyr a phawb sydd â diddordeb ym mharhad y cystadlaethau yma.

"Hoffwn gael atebion cyn gynted ag y bo modd. Rydym wedi galw cyfarfod ar gyfer Hydref 23 a 24 ac fe fyddwn yn annog pawb i ddod yno.

"Rydym yn credu mai'r peth gorau i'r dyfodol yw gwneud yr hyn yr ydym wedi bod yn ei wneud am 18 mlynedd, ac rwy'n credu y byddai o fudd i bawb i ddod i'r cyfarfod."