Coleman yn ansicr am ei ddyfodol

  • Cyhoeddwyd
Chris ColemanFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Dim ond tair gêm allan o 12 mae Cymru wedi eu hennill o dan arweiniaeth Chris Coleman

Mae rheolwr tîm pêl-droed Cymru, Chris Coleman wedi dweud ei fod yn ansicr am ei ddyfodol yn y swydd.

Mae Coleman wedi bod dan bwysau wedi nifer o ganlyniadau sâl, a dydd Iau daeth mwy o feirniadaeth wedi iddo ddewis pedwar chwaraewr oedd wedi eu hanafu yng ngharfan Cymru.

Roedd Coleman, sydd â chytundeb hyd at fis Tachwedd, wedi cytuno estyniad o ddwy flynedd cyn gemau'r Dreigiau yn erbyn Macedonia a Serbia.

Ond nawr mae Coleman wedi dweud y bydd yn aros tan ar ôl y gemau nesaf yn erbyn Macedonia a Gwlad Belg cyn penderfynu ar ei ddyfodol.

Ansicr

Collodd Cymru eu pedwar gêm gyntaf dan reolaeth Coleman, a dim ond tri allan o 12 mae Cymru wedi llwyddo i'w hennill ers iddo gymryd y swydd.

Mae prif weithredwr Cymdeithas Pêl-droed Cymru, Jonathan Ford wedi awgrymu y gall canlyniadau'r tîm dros y gemau nesaf benderfynu dyfodol y rheolwr.

Ond dywedodd Coleman na fyddai hynny yn effeithio ar ei baratoadau.

"Rydw i wedi gweld y sylwadau yn dweud y byddaf yn cael fy meirniadu ar y gemau nesaf," meddai.

"Os dyna yw'r achos, nid yw hynny'n iawn, mae'n rhaid penderfynu ar sail darlun ehangach, ond nid nawr yw'r amser iawn i arwyddo cytundeb."

Dywedodd y rheolwr ei fod wedi trafod canlyniadau diweddar gyda'r Gymdeithas Bêl-droed ddydd Llun, ond nad oedd unrhyw dargedau wedi eu gosod.

"Ar hyn o bryd mae'n edrych yn ddrwg. Ond os ydyn ni'n curo Macedonia fydd hi'n well.

"Bydd pobl yn dweud 'wel gall Chris arwyddo'r cytundeb nawr', ond efallai 'wna i ddim.

James CollinsFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Er nad yw James Collins yng ngharfan Cymru, honnodd Coleman nad dyma oedd diwedd ei yrfa rhyngwladol

"Dwi ddim yn gwybod fy hun. Dwi'n cwestiynu gallaf i wneud beth rydw i eisiau ei wneud? Gallaf gyflawni'r hyn rydw i eisiau i'r wlad gyflawni?"

James Collins

Yn y cyfamser mae'r rheolwr wedi gwneud sylw pellach am amddiffynnwr West Ham a Chymru, James Collins.

Ym mis Medi, dywedodd Coleman bod Collins wedi gwrthod cynnig i ymuno gyda'r tîm i'r golled yn erbyn Serbia.

Gwadodd yr amddiffynnwr hynny, gan ddweud na fyddai wedi gwrthod cynnig i chwarae dros ei wlad.

Dywedodd Coleman: "Roeddwn wedi fy siomi a dwi'n meddwl bod James yn anghywir y tro hwn.

"Dwi'n 'nabod James ers amser hir ac mae o'n fachgen da. [Does gen i] ddim problem hefo fo yn bersonol ond y tro hwn dwi'n meddwl ei fod o'n anghywir.

"Roedd James yn flin ac mae hynny'n iawn, ond mae 'na ffordd o ddelio hefo hynny a dwi'n meddwl nad oedd o wedi gwneud hynny y tro yma."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol