Amheuaeth am ddyfodol Coleman

  • Cyhoeddwyd
Chris ColemanFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cymru wedi colli chwe gêm o'r wyth hyd yma yn eu grŵp yn rowndiau rhagbrofol Cwpan Y Byd o dan reolaeth Coleman

Mae cwestiynau wedi eu codi am ddyfodol Chris Coleman fel rheolwr tîm pêl-droed Cymru yn dilyn y golled yn erbyn Serbia nos Fawrth.

Collodd Cymru yn erbyn Macedonia nos Wener hefyd ac maen nhw bellach ar waelod eu grŵp yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2014.

Chwe phwynt sydd gan Gymru, sef dwy fuddugoliaeth yn erbyn Yr Alban, ond maen nhw wedi colli'r chwe gêm arall yn y grŵp.

Ar raglen y Post Cyntaf ddydd Mercher cadarnhaodd llywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Trefor Lloyd Hughes, fod cytundeb Coleman yn dod i ben ymhen ychydig fisoedd a bod angen siarad gydag ef.

Dywedodd Mr Hughes: "'Da ni ddim wedi penderfynu pa ffordd i fynd. Does neb wedi arwyddo dim byd ac rydan ni'n dal i siarad.

"Wrth gwrs fe fydd yna bwyllgorau'n cael eu cynnal yn arbennig i edrych ar ei gytundeb o. Rhaid i mi ddweud dwi'n nabod Chris ers blynyddoedd ac mae'n anodd weithiau pan ydach chi'n agos at rywun i fedru dweud wrthyn nhw be' sy'n mynd ymlaen.

"Yn y pen draw does dim yn bendant ac mi wna i adael o'n benagored fel yna.

"Mae Chris yn iawn - mae o wedi cael amser caled i fod yn onest yn enwedig yn y dechrau un.

"Ond wrth ddweud hynny mae'n rhaid i ni hefo'r pwyllgor edrych at symud ymlaen.

"Dwi'n siomedig hefo'r canlyniadau sy gynnon ni ac fe fyddwn ni'n siarad â Chris yn y dyddiau nesa' 'ma."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol