Cymdeithas yn bygwth gweithredu
- Cyhoeddwyd
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi dweud y byddan nhw yn gweithredu yn uniongyrchol yn erbyn Llywodraeth Cymru os na fydd polisïau yn eu lle i gefnogi'r iaith erbyn 1 Chwefror, 2014.
Cafodd y cynnig ei gymeradwyo yng nghyfarfod cyffredinol y gymdeithas yng Ngharno brynhawn dydd Sadwrn.
Roedd ffigyrau'r Cyfrifiad diwethaf yn dangos dirywiad yn nifer rheiny sydd yn siarad yr iaith ac mae'r gymdeithas yn credu y bydd y llywodraeth wedi cael digon o amser i ymateb i'w pryderon erbyn mis Chwefror.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw yr un mor ymroddedig i dwf yr iaith Gymraeg â'r gymdeithas.
Cyfrifiad
Yn ystod y rali, dywedodd Robin Farrar, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Mae bron i flwyddyn wedi mynd heibio ers i ni weld canlyniadau'r Cyfrifiad, ac mae llawer o siarad a thrafod wedi bod ynglŷn â sefyllfa'r Gymraeg.
"Bellach, mae yna gonsensws bod argyfwng yn wynebu'r Gymraeg a bod angen newidiadau polisi mawr.
"Rydan ni wedi dweud, ers cyhoeddi canlyniadau'r Cyfrifiad, nad oes diben eistedd yn ôl a derbyn y canlyniadau: gydag ymgyrchu cadarnhaol ac ewyllys gwleidyddol, gallwn ni newid ein tynged a thynged ein cymunedau Cymraeg.
"Os na fydd y llywodraeth yn gweithredu ar y chwe pwynt rydan ni wedi eu hamlinellu yna fe fyddwn ni yn gweithredu yn uniongyrchol yn ddi-drais.
"Mi 'yda ni wedi llunio rhestr o bobol sy'n barod i weithredu, ma ymgyrchoedd fel hyn wedi gweithio yn y gorffennol, ac mi da ni'n barod i neud hyn eto."
Y chwe pwynt mae'r gymdeithas eisiau gweld yn cael eu gwireddu yw:
Addysg Gymraeg i bawb;
Arian 'teg' i'r iaith gan Lywodraeth Cymru;
Y llywodraeth yn annog cyrff cyhoeddus eraill i weithredu yn fewnol trwy'r Gymraeg fel y mae Cyngor Gwynedd yn gwneud;
Safonau iaith i greu hawliau clir;
System gynllunio newydd;
Sicrhau bod yr iaith yn rhan ganolog o'r mesurau Cynaliadwyedd a Chynllunio.
Mae'r gymdeithas hefyd wedi lansio cloc ar eu gwefan sydd yn cyfrif i lawr at 11 Rhagfyr. Adeg hynny mi fydd hi'n flwyddyn ers canlyniadau'r Cyfrifiad pan gyhoeddwyd bod 19.0% o bobl yn gallu siarad Cymraeg yn 2011. 20% oedd y ffigwr yn 2001.
'Nid y '60au'
Wrth ymateb i ofynion y Gymdeithas dywedodd y llywodraeth eu bod yn bwriadu lansio ymgyrch newydd ynglŷn ag addysg cyfrwng Cymraeg yn y dyfodol agos.
Dywedont hefyd eu bod yn parhau i gyd-weithio gyda pobl sydd â diddordeb yn yr iaith er mwyn diogelu ei dyfodol ledled Cymru.
"Mae'n rhaid i Gymdeithas ddeall fod y rhai sydd yn y llywodraeth yr un mor ymroddedig i dwf yr iaith Gymraeg a chynyddu'r nifer o siaradwyr Cymraeg ag y mae nhw," meddai llefarydd.
"Nid y 1960au na'r 1970au yw hi.
"Rydym wedi ymrwymo i hybu'r Gymraeg ac wedi cymeryd camau ers canlyniadau'r Cyfrifiad.
"Mae hyn yn cynnwys y Gynhadledd Fawr - trafodaeth genedlaethol ynglŷn â'r iaith, roddodd gyfle i bawb gael mynegu eu barn ar sut i ddiogelu dyfodol yr iaith.
"Rydym wedi hel tystiolaeth a byddwn yn ymateb yn ystod yr hydref. Byddwn hefyd yn cyhoeddi TAN20 ddiwygiedig yn ystod yr wythnosau nesaf, ynghyd ac amserlen Safonau."
Cyhoeddodd y prif weinidog y Gynhadledd Fawr ym mis Chwefror er mwyn trafod yr heriau sy'n wynebu'r iaith.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2013