Cymru'n araf i hyrwyddo cerddoriaeth, yn ôl pennaeth
- Cyhoeddwyd
Mae cerddoriaeth draddodiadol Yr Alban 20 mlynedd ar y blaen i gerddoriaeth Cymru o ran y modd mae'n cael ei hyrwyddo ar draws y byd, yn ôl Prif Weithredwr y Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig.
Mae John Rostron yn dweud mai dim ond yn ddiweddar y mae cerddoriaeth draddodiadol Cymru wedi cael ei weld fel rhywbeth i'w werthu ac fel diwydiant i wneud arian.
Ond mae'n dadlau bod safon yr artistiaid yng Nghymru gyda'r gorau yn y byd.
'Digon o dalent'
"Ni'n mynd i rhai digwyddiadau yn Yr Alban ac ma'n ymddangos bod yr Alban 20 mlynedd ar y blaen i ni o ran hyrwyddo ei cherddoriaeth. Ma'n ymddangos bod Iwerddon hefyd ar y blaen. Ond dyw hynny ddim achos bod 'na ddim talent yng Nghymru.
"Ydyn ni ddim wedi bod gyda'r strwythur cywir? Neu ddim wedi bod gyda'r uchelgais iawn? Ydyn ni jest ddim wedi meddwl am y peth? Ma' hwnna yn 'neud i fi deimlo yn eithaf trist.
"Ond mewn ffyrdd eraill mae e'n rili cynhyrfus achos ni'n dechrau rhywbeth newydd. Mae e i gyd i ddod a ma' gwylio rhai o'r grwpia' 'ma, ma' rhai yn dechrau cael llwyddiant yn barod."
Mae John Rostron ymhlith y rhai sydd wedi bod yn trefnu WOMEX, gŵyl fasnach cerddoriaeth byd, sy'n ymweld â Chymru am y tro cyntaf yr wythnos nesa'.
Yn ôl yr hyrwyddwr cerddoriaeth, mae 'na waddol wedi ei adael a hynny cyn i'r digwyddiad ddechrau.
Fel rhan o'r gwaddol hwn, mae'r Sefydliad wedi sefydlu rhaglen er mwyn hyfforddi pobl i fod yn rheolwyr yn y diwydiant. Mae rhai yn pryderu nad oes digon o reolwyr yng Nghymru ar hyn o bryd.
Mae Mr Rostron yn pryderu hefyd bod artistiaid yn credu mai dim ond at y farchnad yng Nghymru mae eu cerddoriaeth yn apelio ac nad ydyn nhw angen rheolwyr o'r herwydd.
"Ond pan chi'n mynd i WOMEX chi'n sylweddoli bod siarad Cymraeg yn ased. Ma' hwnna yn well na siarad Saesneg. So ma rhaid gweddnewid y seicoleg."
Budd economaidd
Mae'n dweud mai dim ond rŵan mae'r llywodraeth yn sylweddoli bod cerddoriaeth yn medru bod yn ffordd i ddenu pobl i ymweld â Chymru ac yn fudd economaidd. Yn sgil datblygiadau technolegol, mae'n haws i bobl ar draws y byd glywed caneuon o Gymru, meddai.
"Ni'n genedl fach a dw i'n meddwl weithie bod ni'n tanbrisio faint o ddiddordeb sydd gan bobl mewn pethau bach prydferth. Ma' Cymru yn lle bach prydferth ac mae technoleg yn golygu bod pobl yn gallu edrych arnon ni ac ymchwilio."
Dydy Mr Rostron ddim yn cytuno nad oes digon yn gwybod am WOMEX gan ddweud bod pobl sydd yn gweithio yn y maes yn ymwybodol o'r ŵyl. Mae 'na alw mawr ar gyfer y digwyddiadau sydd ar gael i'r cyhoedd hefyd.
"Mae'r tocynnau ar gyfer y cyngerdd agoriadol wedi gwerthu i gyd. Mae'r tocynnau ar gyfer y perfformiadau nos yn gwerthu'n dda iawn. Ni wedi gwerthu stondinau masnach i gyd. Mae gyda ni fwy nag erioed o gynrychiolwyr o Brydain yn dod," ychwanegodd.
Agoriad llygad
Mae'n cydnabod nad ydy o'n gwybod beth fydd effaith tymor hir WOMEX, ond mae'n obeithiol y bydd artistiaid o Gymru yn elwa.
"Ma'r bobl 'ma yn bobl bwysig. Ma' gyda nhw'r bys ar y botwm, yn bobl sydd gyda chysylltiadau.
"Er enghraifft dw i wedi bod yn siarad gydag un dyn sydd yn cynrychioli'r holl wyliau cerddorol yng Nghanada. Dyw e ddim jest yn un ŵyl. Os chi'n cyfarfod fe, a'i fod e yn eich hoffi chi allith e roi chi mewn cysylltiad gyda'r holl wyliau. Ma' hwnna yn agoriad llygad."
Does ganddo ddim amheuaeth chwaith y bydd y cerddorion yn creu argraff ar y rhai sydd yn dod i Gaerdydd.
"Dw i ddim yn credu y bydd pobl yn dod gydag unrhyw farn am y gerddoriaeth achos ni ddim wedi bod mas yna yn y ffordd yna. Ni 'di cal ein Tom Jones a Shirley Bassey a'r Stereophonics a'r Manics.
"Nhw sydd wedi bod ein llysgenhadon ni ar gyfer cerddoriaeth yng Nghymru. Ma'n Meic Stevens ni neu beth bynnag wedi cael eu cuddio, ein cyfrinach fach ni...Ni'n gwybod pa mor dda yw ein perfformwyr ni felly ma nhw mynd i fod wedi eu plesio."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2013