Gŵyl gerdd WOMEX yn dod i Gymru

  • Cyhoeddwyd
WOMEXFfynhonnell y llun, Eric Van Nieuwland
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i 2,500 o bobl ddod i'r wŷl er mwyn trafod busnes a hyrwyddo eu cerddoriaeth

Nos Fercher mi fydd Cymru yn croesawu gŵyl gerddoriaeth ryngwladol WOMEX i Gaerdydd.

Marchnad ydy hon sydd yn rhoi cyfle i bobl o wahanol wledydd, sydd yn gweithio yn y maes cerddoriaeth byd, i ddod at ei gilydd i drafod busnes a gwneud cysylltiadau.

Bob blwyddyn ers 1994 mae'r ŵyl wedi bod yn teithio o gwmpas Ewrop. Mae wedi ymweld â Phrydain unwaith o'r blaen yn 2005. Adeg hynny mi aeth i Gateshead yn Lloegr ond dyma'r tro cyntaf iddi ddod i Gymru.

Dros gyfnod o bum niwrnod bydd tua 2,500 o bobl yn dod at ei gilydd o 100 o wledydd i sgwrsio ac i wrando ar gynadleddau a sesiynau cerddoriaeth yn Arena Motorpoint yng nghanol Caerdydd.

Yn y nos bydd perfformiadau byw i'w clywed yn y bae gan gerddorion o ar draws y byd a hynny ar chwe llwyfan gwahanol.

Gorwelion

Ar nos Fercher, Hydref 23 mae'r cyngerdd agoriadol yn digwydd. Yn ystod y noson bydd cerddorion o Gymru yn ymuno gyda Cerys Matthews i ddathlu hanes, diwylliant a cherddoriaeth Gymreig. Rhai o'r artistiaid fydd ar y llwyfan fydd Siân James, Twm Morys, Cass Meurig, Ballet Cymru, Côr Meibion Treorci a Gwenan Gibbard.

Bydd yr artistiaid Georgia Ruth, 9Bach a'r delynores Catrin Finch yn perfformio yn ystod yr wythnos, ynghyd â Seckou Keita o Senegal, a Gwyneth Glyn a'r grwp o India, Ghazalaw.

Ffynhonnell y llun, josh pulman
Disgrifiad o’r llun,

Ymlith y cerddorion o Gymru fydd yn perfformio y mae Catrin Finch

Mae tri ohonynt wedi eu dewis i chwarae ar lwyfan Gorwelion sef yr enw ar y brand marchnata sydd wedi ei sefydlu i hyrwyddo cerddoriaeth o Gymru, yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae artistiaid o'r pedwar gwlad yn chwarae ar y llwyfan yn ystod yr wythnos.

Er bod yr ŵyl yn dod i ben ar ddydd Sul, Hydref 27, bydd taith gerddorol o gwmpas Cymru i ddilyn. Cyd gynhyrchiad rhwng Creu Cymru a Theatr Mwldan yw'r daith, fydd yn cynnwys cerddorion rhyngwladol sydd yn perfformio yn WOMEX. Bydd artistiaid Cymreig hefyd yn rhan o'r daith.

Cerdd Cymru: Music Wales yw'r partneriaid sydd yn cynnal WOMEX a nhw wnaeth drefnu'r cais buddugol er mwyn ceisio denu'r ŵyl i Gaerdydd. Roedden nhw'n cystadlu yn erbyn naw o ddinasoedd Ewropeaidd eraill.

Mae'r ŵyl yn derbyn cefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru.

Gobaith y trefnwyr yw y bydd y digwyddiad yn ffordd i gerddorion o Gymru a'r Deyrnas Unedig gael gwaith yn rhyngwladol ac y bydd yn hwb i ddatblygu cerddoriaeth byd ar draws Cymru.

Hefyd gan y BBC

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol