Rhybudd melyn am law trwm yn ne Cymru ddydd Llun
- Cyhoeddwyd
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn i bobl yn fod yn wyliadwrus oherwydd glaw trwm a gwyntoedd cryfion yn ne Cymru ddydd Llun.
Gallai'r tywydd garw arwain at lifogydd, yn enwedig ar ffyrdd prysur yn Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf, Caerdydd, Caerffili a Merthyr Tudful.
Ddydd Sadwrn bu'n rhaid cau rhai ffyrdd a siopau wedi i law trwm achosi fflachlifoedd yng Nghaerdydd.
Roedd disgwyl i'r glaw trwm gilio erbyn canol bore Llun, cyn iddo ddychwelyd yn ddiweddarach yn y dydd.
Dywedodd Adran Dywydd BBC Cymru: "Mae yna wythnos fwyn arall i ddod ond fe fydd hi'n ansefydlog iawn gyda disgwyl llawer o law.
"Mae disgwyl dechrau gwlyb ddydd Llun, gyda chawodydd trymion. Mae yna rybudd melyn mewn grym yn ne Cymru, a gallwn weld llifogydd mewn rhai ardaloedd.
"Mewn ardaloedd eraill, bydd y glaw yn troi'n gawodydd ysgafnach yn ystod y prynhawn. Mae disgwyl i'r tymheredd godi i 17 neu 18C gyda gwyntoedd cyrfion o'r de orllewin, a'r gwyntoedd hynny'n hyrddio mewn ardaloedd agored."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2013