Rhybudd am lifogydd posib wedi glaw trwm
- Cyhoeddwyd
Mae tîm o beirianwyr wedi gorfod symud tunnelli o dywod er mwyn atal pentre' ym Mhenrhyn Gŵyr rhag cael ei gau ffwrdd gan lifogydd.
Roedd y tywod wedi chwythu oddi ar y traeth yn Oxwich, gan atal nant rhag llifo trwy wlypdir.
Wrth i'r nant lenwi, roedd perygl y gallai achosi llifogydd yn y pentre'.
Roedd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn amcangyfri' y gallai'r gwaith gymryd rai oriau.
Yn y cyfamser, mae yna rybudd am lifogydd posib mewn afonydd ar draws de, gorllewin a chanolbarth Cymru wedi glaw trwm nos Lun.
Roedd CNC wedi cyhoeddi 13 rhybudd , dolen allanolar gyfer afonydd, o Afon Gwy yn Sir Fynwy i Afon Tywi yn Sir Gaerfyrddin.
Daeth adroddiadau o ddŵr wyneb yn gorlifo yn Nyfnant, Abertawe, ac yn Sir Benfro dros nos.
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am fwy o law trwm yn y de a'r gorllewin ddydd Mawrth.
Yn ôl Adran Dywydd y BBC, gallai rhagor o law yn ystod y bore arwain at lifogydd mewn rhai ardaloedd yn ne Cymru, ond roedd disgwyl cawodydd ysgafnach yn ystod y prynhawn.
Gallai rhagor o law trwm ddydd Iau gynyddu'r perygl am lifogydd unwaith eto, gyda rhybudd cynnar mewn grym ar gyfer de a gorllewin Cymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2013