Georgia Ruth: 'Y nod yw denu clustiau a llygaid newydd'

  • Cyhoeddwyd
Georgia RuthFfynhonnell y llun, Catrin Davies

Gobeithio denu "clustiau newydd" i wrando arni'n perfformio yng ngŵyl WOMEX y mae'r gantores a'r delynores Georgia Ruth.

Mae'n un o'r llond llaw o Gymry sydd wedi eu dewis i chwarae yn ystod yr ŵyl gerddoriaeth byd ac yn cyfaddef bod dod o hyd i gynulleidfa newydd yng Nghymru yn gallu bod yn heriol.

Ond efo miloedd yn heidio i'r brifddinas o bob cwr o'r byd mae'n gobeithio y bydd hi'n elwa ar y digwyddiad.

"Mae o jyst yn creu posibiliadau yn fy mhen, pwy fydd yn clywed a sut effaith fydd hynny yn cael ar fy mywyd?

"Achos dw i wedi ffeindio efo fy ngyrfa hyd yma mai'r chance meetings yma efo pobl sydd wedi mynd ymlaen i fod yn bethau pwysig o ran recordio a phobl dw i wedi cwrdd â nhw.

"Felly mae gen i ryw deimlad y bydd 'na rywun hollol unexpected yn WOMEX ac y bydd hynna'n arwain at ganlyniadau positif. Wel croesi bysedd, gobeithio."

Oriau

Mi oedd trefnu sgwrs gyda'r ferch o Aberystwyth yn dipyn o dasg am ei bod hi'n gorfod mynd i'r ymarferion ola' a rheiny'n para am oriau.

Nos Fercher mi oedd hi'n rhan o gyngerdd Gwlad y Gân yn y bae.

Ac mi fydd hi'n camu i'r llwyfan eto gyda Gwyneth Glyn a'r grŵp Ghazalaw o'r India ac ar ben ei hun nos Iau.

Dydy hi ddim yn mynd i fod yn wythnos dawel iddi ond mae'n edrych ymlaen. "Dw i'n gobeithio y bydd yn dipyn o sbort," meddai.

Dydy hi ddim yn siŵr faint y bydd pobl yn ei wybod am gerddoriaeth Cymru cyn cyrraedd Caerdydd.

'Delwedd'

Ond dywedodd fod yna "ddelwedd cŵl" yn perthyn iddi mewn gwledydd eraill am fod Cymru yn wlad fach.

"Mae 'na ryw cachet yn perthyn i ddarganfod cerddoriaeth Gymraeg os ti'n dod o wlad dramor.

"Ac mae hynny'n beth da iawn i ni gerddorion Cymraeg achos dw i'n meddwl bod gan bobl fascination a bod hi jyst yn fater ein bod ni fel cerddorion Cymraeg yn gwneud yn siŵr bod ein cerddoriaeth ni yn gallu teithio."

Er ei bod hi'n cydnabod bod y we wedi golygu bod ei chaneuon hi wedi eu clywed gan bobl ar draws y byd, mae'n dal i ddadlau bod yna bwrpas i ŵyl fel WOMEX.

"Be' sy' ddim ar y we ydy'r cyswllt personol, ti'n sefyll o flaen person a ti'n siarad gyda nhw ac yn gallu rhesymu gyda nhw.

"Weithiau mae 'na deimlad eitha' rhyfedd pan ti'n cysylltu gyda phobl ar y we am dy gerddoriaeth.

"Er ei fod yn wych mae 'na rywbeth reit gyffrous bod ti ddim yn gwybod pwy yn union sydd yn gwrando.

"Actually efo WOMEX be' dw i'n meddwl fydd yn wych fydd y cyfle i siarad gyda phobl, i ffeindio tir cyffredin."

Canolbwyntio ar y perfformio mae Georgia Ruth yn ystod y dyddiau nesaf.

"Dw i ddim yn gwybod os dw i yn prime networker," meddai gan chwerthin.

Ond mae'n benderfynol o drio sgwrsio gyda'r bobl bwysig fydd yno hefyd.

"Efalle bod rhaid i ni fel cerddorion ddysgu i allu gwerthu ein cerddoriaeth ni trwy eiriau yn y math yma o beth.

"Felly dw i am drio fy ngorau i fynd i'r Motorpoint Arena a gweld pwy fydd yna.

Seren ryngwladol?

"Dw i'n meddwl y bydd yn exciting actually achos o be' dw i wedi clywed bydd na gymaint o fwrlwm gyda'r holl stondinau 'ma o ar draws y byd i gyd.

"Fydd hi'n braf jyst i gwrdd gyda phobl newydd a dweud y gwir."

Er bod y rhai sydd yn dallt y dalltings wedi bod yn canmol ei cherddoriaeth ers sawl blwyddyn dim ond yn ddiweddar y mae'r buzz yna am Georgia Ruth wedi cydio.

Eleni mae ei chaneuon wedi eu chwarae ar Radio 2 a 6 Music ac mi gafodd ei halbwm gyntaf adolygiadau ffafriol yn y papurau trymion.

I goroni'r cyfan yr wythnos ddiwethaf mi enillodd Week of Pines yr albwm gorau yn y seremoni Gwobrau Gerddoriaeth Gymreig.

Gyda nifer yn dweud ei bod hi ar fin dod yn seren ryngwladol dydy hi ddim am ruthro i wneud penderfyniadau, meddai.

'Cymryd stoc'

"Dw i wedi dweud wrth fy hun ar ôl WOMEX mod i'n mynd i gymryd ychydig bach o amser jyst i gymryd stoc.

"Gobeithio bydd unrhyw bobl y bydda i wedi cwrdd yn WOMEX, y bydd cyfle i gysylltu gyda pobl, cyfle i asesu opsiynau ...

"Yn gyffredinol, dwi'n gallu bod yn hollol rash ac impulsive.

"Ond dw i'n ymwybodol mod i angen meddwl am beth sydd yn dod nesa' a sut i greu'r cyfleoedd gorau i fi fy hun."

Hefyd gan y BBC

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol