Llifogydd yn creu trafferthion i deithwyr
- Cyhoeddwyd
Mae llifogydd yn achosi trafferthion i deithwyr wedi i'r hyn gafodd ei alw'n "storm sylweddol" daro de Cymru a Lloegr.
Wnaeth y gwyntoedd gwaethaf ddim effeithio ar Gymru wedi i'r Swyddfa Dywydd , dolen allanolrybuddio y gallai gwyntoedd o 80 mya daro rhai ardaloedd.
Roedd y ddwy bont Hafren ynghau dros nos ond cafodd yr ail bont (M4) ei hailagor am 06:00yb fore Llun a phont yr M48 ei hailagor yn ddiweddarach.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru'n rhybuddio gyrwyr i beidio gyrru trwy ddŵr ar y ffyrdd gan y gall fod yn ddwfn ac yn llifo'n gyflym er nad yw'n ymddangos felly.
Mae criwiau yng Nghaerdydd, Casnewydd a'r Barri wedi bod yn delio â galwadau ynghylch llifogydd ar ffyrdd ac mewn cartrefi.
Fe gafodd Heddlu'r De alwadau oherwydd llifogydd ar ffyrdd rhannau o Gaerdydd, gan gynnwys Treganna, Cathays, Y Rhath, Tredelerch a Llaneirwg, a bu trafferthion ar rai o ffyrdd Bro Morgannwg hefyd.
Trafferthion
Cafodd yr A466 i'r ddau gyfeiriad rhwng Casgwent a Thyndyrn ei chau am gyfnod oherwydd tirlithriad.
Cwympodd 40 o dunelli o fwd ar yr heol ac roedd peirianwyr yn asesu'r sefyllfa.
Roedd llawr gwaelod tafarn Yr Anchor yn Nhyndyrn dan ddŵr fore Llun.
Dywedodd cyflwynydd tywydd Radio Cymru Rhian Haf amser cinio: "Rydan ni 'di bod yn ffodus iawn yma yng Nghymru - yn osgoi'r tywydd gwaetha er bod sawl coeden 'di disgyn yn y gwyntoedd cryfion a mae 'na byllau dyfn o ddŵr ar y ffyrdd ar ôl glaw trwm hefyd.
"Yma yng Nghymru mi fydd hi'n dal yn eitha gwyntog y pnawn ma, yn enwedig ar hyd glannau'r de a'r gorllewin.
"43 mya"
"Mi oedd yn hyrddio 43 mya yng Nghapel Curig am 1pm heddiw a 38 mya yn Aberdaron, a mi fydd 'na gawodydd o law mewn sawl man, yn enwedig yn y gorllewi.
"Gan fod y ddaear yn socian, wrth gwrs, a chan fod 'na ddail a changhennau coed yn tagu'r draeniau, mi fydd na byllau dyfn o ddŵr ar y ffyrdd.
"Ond mi fydd hi'n tawelu yn ystod y dydd, y cawodydd yn cilio tua'r arfordir a'r gwynt yn gostegu hefyd a mi gawn ni dipyn o heulwen."
Mae'r tywydd garw wedi effeithio ar wasanaethau trên, ac mae pedwar rhybudd llifogydd mewn grym.
'Byddwch yn barod'
Mae'r manylion ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru, dolen allanol - ac mae cyngor "Byddwch yn barod" ar gyfer dalgylch Dyfi, Dyffryn Dyfrdwy Isaf o Langollen i ddolau Trefalyn, dalgylch Efyrnwy, a dalgylch rhannau ucha' Afon Teifi.
Yn y cyfamser, mae Network Rail wedi cyflwyno cyfyngiadau cyflymder mewn rhai ardaloedd sy'n golygu y gallai teithwyr ar drenau o dde Cymru i Lundain brofi oedi o hyd at awr.
Dywedodd First Great Western, dolen allanol fod rhai trenau rhwng de Cymru a Llundain Paddington wedi eu canslo a bod amserlen trenau rhwng Bryste Temple Meads a Chasnewydd wedi ei newid.
Rhybuddiodd Arriva Trains Wales fod y lein rhwng Y Barri a Phen-y-bont wedi ei chau oherwydd llifogydd yn Llanilltud Fawr.
Mae bysus yn rhedeg rhwng Y Barri a Phen-y-bont a dylai teithwyr edrych ar wefan Journey Check, dolen allanol cyn teithio.
Dywedodd Maes Awyr Caerdydd, dolen allanol nad oedd y tywydd wedi amharu ar hediadau.
Mae cwmni Irish Ferries, dolen allanol wedi canslo'r gwasanaeth cyflym rhwng Caergybi a Dulyn, ac fe gynghorir cwsmeriaid sy'n gobeithio teithio rhwng Penfro a Rosslare i ffonio'r llinell wybodaeth ar 08717 300400 neu fynd i wefan y cwmni am y newyddion diweddaraf.
Dros y Sul, gofynnodd Dŵr Cymru i'w cwsmeriaid weithio gyda nhw er mwyn cadw draeniau'n glir yn y tywydd gwlyb.
'Pwysau'
Dywedodd Steve Wilson o'r cwmni: "Gyda'r rhagolygon yn addo glaw trwm iawn bydd ein peirianwyr ar ddyletswydd i ymateb i unrhyw drafferthion allai ddigwydd i'r rhwydwaith.
"Mae tywydd fel hyn yn rhoi pwysau ychwanegol ar y rhwydwaith ac fe fyddwn yn ddiolchgar pe bai cwsmeriaid yn gadael i ni wybod yn syth am unrhyw broblemau yn eu hardaloedd nhw."
Mae'r cwmni'n gofyn i gwsmeriaid ffonio llinell gymorth 24 awr ar 0800 085 3968 os fydd problemau'n codi.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2013