Rhybudd am dywydd gwael a llifogydd

  • Cyhoeddwyd
Tesco yng Nghroes CwrlwysFfynhonnell y llun, Sara Gibson
Disgrifiad o’r llun,

Daeth glaw'r penwythnos diwethaf â llifogydd i'r arfarchnad hon ger Caerdydd

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi rhybudd am dywydd gwael ar draws y wlad dros y dyddiau nesaf.

Mae'n dilyn rhybudd melyn gan y Swyddfa Dywydd fore Gwener am law trwm dros y rhan fwyaf o dde a de-orllewin Cymru, sef rhybudd i fod yn barod am dywydd drwg.

Dywedodd CNC fod y rhagolygon ar gyfer Cymru gyfan yn parhau yn ansefydlog dros y Sul a dydd Llun.

Y penwythnos diwethaf arweiniodd glaw at lifogydd mewn rhai lleoliadau yng Nghaerdydd a Bangor.

Dywedodd llefarydd ar ran CNC: "Gan fod y tir yn orlawn o ddŵr yn dilyn glaw yn ystod yr wythnos, bydd unrhyw law yn mynd i'r nentydd, ffosydd ac afonydd yn syth gyda'r potensial am lifogydd yn lleol.

"Gan fod dail ar hyd y strydoedd a phalmentydd mae risg hefyd y bydd draeniau'n llenwi gan achosi llifogydd ar y ffyrdd.

"Fe fydd ein swyddogion yn monitro lefelau'r afonydd dros y penwythnos, yn sicrhau bod draeniau'n glir ac yn gwirio bod amddiffynfeydd llifogydd yn gweithio'n effeithlon."

Mae rhybudd y Swyddfa Dywydd yn cynnwys Caerdydd, Abertawe, Rhondda Cynon Taf, Casnewydd, Merthyr Tudful, Caerffili, Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Bro Morgannwg, Castell-nedd Port Talbot, Torfaen, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.

Mae'r rhagolygon yn dweud bod disgwyl bron i fodfedd (20mm) o law wrth i gymylau ymledu tua'r gogledd-ddwyrain, gyda mwy o law dros dir uchel.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn annog y cyhoedd i gadw golwg ar y rhagolygon tywydd dros y penwythnos, ac i ymweld â'u gwefan, dolen allanol yn gyson.

Bydd y newyddion diweddaraf hefyd ar gael ar linell llifogydd CNC hefyd ar 0845 988 1188.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol