Cymru 1-0 Macedonia
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru wedi curo Macedonia o 1-0 yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd.
Yn yr ail hanner fe darodd Cymru'r bar ddwywaith.
Hanner ffordd drwy'r ail hanner curodd Ramsey ei wrthwynebydd cyn pasio i Bellamy greodd gôl i Simon Church. Roedd yn symudiad hyfryd.
Chwe munud cyn y diwedd cafodd Ramsey ei faglu a chafodd gyfle i selio'r fuddugoliaeth ond arbedodd y golgeidwad.
Yn yr hanner cynta' roedd perfformiad Cymru'n addawol ac roedden nhw'n anlwcus i beidio â bod ar y blaen.
Croesodd Ramsey ond llwyddodd Sikov i glirio.
Yn drawiadol
Deng munud wedyn croesodd Bellamy ond llwyddodd Sikov eto i ddelio â'r bygythiad.
Yna pan ergydiodd Simon Church blociodd Sikov y bêl.
Yn sicr, roedd perfformiad Cymru'n drawiadol o gofio cyn lleied o chwaraewyr arferol oedd ar gael.
Roedd 10 o chwaraewyr wedi tynnu eu henwau yn ôl o'r garfan.
Doedd Ben Davies, Sam Ricketts, Adam Matthews, Danny Gabbidon, Jonathan Williams, Joe Allen, Sam Vokes a Joe Ledley ddim yn chwarae.
Emosiynol
Gyda chymaint wedi eu hanafu, roedd Chris Coleman wedi penderfynu bod bachgen 16 oed yn y garfan, Harry Wilson sydd ar lyfrau Lerpwl.
Aaron Ramsey oedd y capten gan fod Ashley Williams wedi ei anafu.
Ar y diwedd roedd yn funud emosiynol i Bellamy oedd yn ei gêm ryngwladol ola' gartre'.
Roedd y rheolwr Chris Coleman yn wên o glust i glust.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2013