FIFA: Cymru yn codi wyth safle

  • Cyhoeddwyd
Chris ColemanFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Does neb yn gwybod a fydd Chris Coleman yn arwain Cymru ar ddechrau'r ymgyrch ar gyfer Ewro 2016

Mae Cymru wedi codi wyth safle yn rhestr detholion FIFA y byd.

Mae'r cochion bellach yn 44ydd, ddau safle'n unig yn is nag yr oedden nhw pan gymerodd Chris Coleman yr awenau yn Ionawr 2012.

Roedd buddugoliaeth yn erbyn Macedonia yr wythnos ddiwetha' a'r gêm gyfartal yn erbyn Gwlad Belg, sydd bellach yn bumed yn y tabl, yn hwb.

Er gwaetha'r canlyniadau gorffennodd Cymru'n bumed allan o chwech yn eu grŵp rhagbrofol.

28 safle

Mae'r Alban wedi codi 28 safle, y cynnydd mwya' i unrhyw wlad, diolch i'w buddugoliaeth yn erbyn Croatia.

Bydd Lloegr yn siomedig i fod yn y 10fed safle gan y bydd yn ei wneud yn anoddach iddyn nhw gyrraedd yr ail rownd yn Rio 2014.

Mae'r saith uchaf yn ogystal â'r wlad sy'n cynnal y twrnamaint, Brasil, ar eu hennill yn y rownd grwpiau gan eu bod yn cael osgoi chwarae ei gilydd.

Bydd timau'r Ynys Werdd yn siomedig gan fod y Weriniaeth yn disgyn o 59fed i 60fed a Gogledd Iwerddon o 86ed i 90fed.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol