Cyhoeddi ail ran adroddiad benthyca
- Cyhoeddwyd
Bydd adroddiad annibynnol am fenthyca gan fanciau i fusnesau bach yn cael ei gyhoeddi'n ddiweddarach.
Mae'r ail o ddwy ran i'r adroddiad yn debyg o feirniadu rôl Cyllid Cymru - banc buddsoddi Llywodraeth Cymru.
Cafodd y corff ei feirniadu yn rhan gyntaf yr adolygiad, oedd yn dweud bod "dryswch o hyd" am union rôl y sefydliad.
Mae Plaid Cymru wedi galw eto am sefydlu banc newydd fyddai'n eiddo i'r cyhoedd.
Pryderon
Cafodd yr adroddiad - Adolygiad Mynediad ar Gyllid - ei gomisiynu gan y Gweinidog Economi Edwina Hart yn dilyn pryder bod busnesau bach a chanolig eu maint yng Nghymru yn cael trafferth benthyg arian gan fanciau.
Cafodd yr adolygiad ei arwain gan yr Athro Dylan Jones-Evans, arbenigwr busnes ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr a chyn ymgeisydd Ceidwadol i'r Cynulliad.
Yn y rhan gyntaf o'i adroddiad o gyhoeddwyd ym mis Mehefin, roedd yr adroddiad yn dweud y dylai penderfyniadau ar fenthyca banciau gael eu gwneud yng Nghymru.
Roedd hefyd o'r farn bod 20,000 o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru yn methu cael y cyllid y maen nhw'i angen gan y banciau.
Yn ôl yr amcangyfrif, roedd 210,700 o fusnesau yng Nghymru, gyda 99% ohonyn nhw yn rhai bach neu ganolig eu maint.
Roedd yr adroddiad cyntaf hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi eglurdeb am ei rôl yn y banc buddsoddi Cyllid Cymru, gan bwysleisio pryderon busnesau bod y graddfeydd llog a chostau ychwanegol yn "llym".
Mae Cyllid Cymru wedi cyfiawnhau'r lefelau llog fel un o ofynion canllawiau'r Undeb Ewropeaidd.
Mae disgwyl i ail ran yr adroddiad, a fydd yn cael ei chyhoeddi gan y gweinidog busnes Ms Hart yn y Senedd brynhawn Mawrth, godi pryderon pellach am Gyllid Cymru.
'Angen corff newydd'
Cyn i'r adroddiad weld golau dydd, mae Plaid Cymru wedi galw eto am sefydlu banc cyhoeddus newydd nid-am-elw a fydd yn benthyca i fusnesau bach.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, Alun Ffred Jones: "Mae angen corff newydd o dan berchnogaeth y cyhoedd ond hyd braich o'r llywodraeth i fenthyca i fusnesau bach ar raddfeydd cystadleuol.
"Mae sicrhau llif arian i fusnesau, yn enwedig rhai bach, yn allweddol i greu cyflogaeth a chadw olwynion yr economi i droi."
Mae Ceidwadwyr Cymru eisoes wedi galw am ddiwygio Cyllid Cymru gan eu bod yn credu bod y benthyciadau'n rhy fawr i nifer o gwmnïau bach.
Maen nhw am sefydlu Buddsoddi Cymru, a fyddai'n rhannu Cymru yn chwe rhanbarth lle byddai banciau neu swyddfeydd post yn cynnal y gwasanaeth yn y gobaith y byddai cymorth gan y wladwriaeth yn haws ei gael i fusnesau lleol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd29 Mai 2013