4,000 yn llai yn ddi-waith yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Canolfan waith
Disgrifiad o’r llun,

Mae yna 120,000 o bobl yn ddi-waith yng Nghymru ar hyn o bryd

Mae diweithdra wedi gostwng yng Nghymru yn y tri mis rhwng Gorffennaf a Medi, yn ôl ffigurau diweddara'r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae yna 117,000 o bobl yn ddi-waith yng Nghymru. 7.8% o'r boblogaeth sydd o fewn oedran gwaith.

Mae hynny'n ostyngiad o 4,000 o'i gymharu â'r cyfnod rhwng mis Ebrill a Mehefin.

Ar draws y DU mae diweithdra wedi gostwng 48,000 i 2.47 miliwn (7.6%), y nifer lleiaf ers gwanwyn 2011.

Dywedodd Gweinidog yr Economi Cymru, Edwina Hart fod y ffigyrau yn galonogol:

"Ond er gwaetha ffigyrau heddiw mae'r amgylchiadau yn parhau yn anodd. Mae ein ffocws yn parhau ar sicrhau twf economaidd a diogelu swyddi a manteisio ar bob cyfle i allforio ac i ddenu buddsoddiad."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol