Silk: Datganiad pellach am bwerau i Gymru

  • Cyhoeddwyd
David Jones a Paul Silk
Disgrifiad o’r llun,

David Jones AS a Paul Silk pan ddaeth y cyhoeddiad gwreiddiol am bwerau ariannol ddechrau'r mis

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi mwy o fanylion am y pecyn o bwerau ariannol fydd yn cael eu trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol.

Cafodd y cyhoeddiad gwreiddiol ei wneud gan David Cameron a Nick Clegg yng Nghaerdydd yn gynharach yn y mis.

Mae'n golygu y bydd rhai pwerau trethu'n dod i Fae Caerdydd

Gallai'r pwerau weld Llywodraeth Cymru'n rheoli £3 biliwn o gyllid treth, gan gynnwys trethi busnes, y grym i greu rhai trethi newydd a pheth pwerau benthyg.

Fe gafodd 30 o 31 o argymhellion Comisiwn Silk , dolen allanolar ddatganoli pwerau eu derbyn gan Lywodraeth y DU yn llwyr neu'n rhannol, gan arwain at ddatganoli nifer o bwerau ariannol.

Fodd bynnag ni fydd un o'r prif argymhellion - sef y dylai Cymru gael yr hawl i amrywio treth incwm ar wahan ar gyfer y graddfeydd gwahanol - yn cael ei dderbyn.

Os fydd refferendwm yn rhoi'r hawl i Gymru amrywio treth incwm, fe fydd yn gorfod gwneud hynny yn yr un modd a'r Alban, sef codi neu ostwng bob band o dreth incwm ar yr un pryd.

Ymhlith y pwerau newydd a gyhoeddwyd gan Brif Ysgrifennydd y Trysorlys, Danny Alexander, ac Ysgrifennydd Cymru David Jones fore Llun mae:-

  • Datganoli trethi busnes sydd ddim yn rhai mewnol fel y gall Llywodraeth Cymru elwa'n fwy uniongyrchol o dwf yng Nghymru;

  • Y gallu i greu trethi newydd gyda chytundeb Llywodraeth y DU;

  • Yr arfau i reoli'r pwerau trethu newydd;

  • Creu cronfa arian wrth gefn y gall Llywodraeth Cymru ychwanegu ati pan mae refeniw yn uchel, a'i defnyddio pan fydd yn isel neu'n llai na'r disgwyl.

'Arf grymus'

Wrth wneud y cyhoeddiad dywedodd Mr Alexander: "Rwyf wrth fy modd bod fy ngwaith gyda Jane Hutt, gweinidog cyllid Cymru, a chydweithio agos rhwng y ddwy lywodraeth wedi cyflawni'r canlyniad gwych yma i Gymru.

"Fe fydd y pecyn o bwerau ariannol yr ydym wedi cyhoeddi heddiw yn arf grymus fydd yn dod â mwy o atebolrwydd ariannol a thryloywder i Lywodraeth Cymru."

Ychwanegodd Ysgrifennydd Cymru David Jones:

"Drwy'r pecyn o bwerau yr ydym yn ei gyhoeddi, rydym yn rhoi'r arfau i Lywodraeth Cymru i wneud y buddsoddiadau iawn yng Nghymru.

"Mae buddsoddi mewn isadeiledd yn hanfodol bwysig er mwyn creu twf yn y tymor hir ar draws y DU.

"Mae'r pecyn yma yn galluogi Llywodraeth Cymru i fuddsoddi'n syth yn y materion isadeiledd y mae'n arwain arnynt, megis y rhwydwaith ffyrdd traws-Ewropeaidd, yr M4 a ffordd yr A55.

"Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru nawr yw cymryd y cyfle 'unwaith mewn cenhedlaeth' yma a defnyddio'r cyfle i sicrhau twf a llewyrch y mae Cymru angen."

'Cam pwysig'

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams, fod y cyhoeddiad ddydd Llun yn "gam pwysig ymlaen i Gymru".

"Ar bob cyfle rydym wedi bod yn pwyso, a byddwn yn parhau i bwyso, i ddod â mwy o atebolrwydd a chyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru. Rydym eisiau i Gymru gael rhagor o bwerau i hybu datblygiad economaidd y wlad, a chreu swyddi a chyfoeth i'n pobl."

Wrth groesawu'r cyhoeddiad, dywedodd Gweinidog Cyllid Cymru Jane Hutt:

"Dros yr wythnosau nesa', byddwn angen cadarnhau'r manylion ar sut y bydd y pecyn llawn yn cael ei gyflwyno, ac rwy'n edrych 'mlaen at weithio ar hyn gyda'r Prif Ysgrifennydd.

"Nawr bod pethau'n symud ymlaen, rydym angen cadw'r momentwm. Y flaenoriaeth nawr yw troi'r gwelliannau yn gyfraith, fel ein bod yn gallu defnyddio'r pwerau newydd i hybu'r economi yng Nghymru."

Croeso gofalus

Daeth croeso gofalus hefyd gan gadeirydd y Comisiwn ar Ddatganoli, Paul Silk. Dywedodd:

"Fel Comisiwn rydym yn falch bod mwyafrif llethol yr argymhellion a wnaethom yn ein hadroddiad cyntaf wedi cael eu derbyn gan lywodraeth y DU.

"Yn dilyn cyhoeddiad y prif weinidog a'r dirprwy brif weinidog yn gynharach yn y mis ar dreth incwm, benthyca a threth stamp a thirlenwi, mae datganoli llawn o drethi busnes a'r gallu i greu trethi newydd yn mynd i fod yn arfau pwysig i Lywodraeth Cymru.

"Yn ein hadroddiad cyntaf fe wnaethon ni gyflwyno dadl gref dros ganiatáu i Lywodraeth Cymru osod graddfa ar gyfer bob band unigol o dreth incwm ar wahân.

"Nodwn y bydd datganoli treth incwm yn mynd i ddilyn y model yn yr Alban, ac edrychwn ymlaen at y drafodaeth a fydd yn dilyn ar hynny.

"Mae ymateb heddiw yn gam pwysig ymlaen. Bydd gweithredu ein hargymhellion yn dod â chyfrifoldeb a grym ac rydym yn credu bod angen hynny ar gyfer llywodraeth ddatganoledig i Gymru."

Mae'r Comisiwn ar hyn o bryd yn gweithio ar ail ran ei faes llafur, sef adolygu pwerau'r Cynulliad Cenedlaethol sydd ddim yn ariannol, ac mae disgwyl iddo gyhoeddi adroddiad pellach ym Mawrth 2014.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol