Cyhoeddi pwerau newydd i Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r Prif Weinidog David Cameron wedi cyhoeddi y bydd rhai trethi'n cael eu datganoli i Gymru yn ogystal â phwerau benthyg.
Yn siarad yn y Senedd gyda'i ddirprwy Nick Clegg, dywedodd Mr Cameron bod y penderfyniad wedi cael ei wneud er mwyn gwneud Llywodraeth Cymru yn fwy atebol.
Yn ogystal â datganoli'r cyfrifoldeb dros dreth stamp a threth tirlenwi, bydd yna fesur yn San Steffan i ganiatau Llywodraeth Cymru i alw refferendwm am ddatganoli pwerau treth incwm.
Mae pob plaid o fewn y Cynulliad wedi croesawu'r newyddion.
'Rhagor o bwerau i bobl Cymru'
Dywedodd David Cameron: "Heddiw rydym yn cyhoeddi mwy o bwerau i bobl Cymru ac i Lywodraeth Cymru er mwyn adeiladu'r wlad a sicrhau bod y llywodraeth yng Nghymru wir yn atebol - dyma rydw i eisiau, dyma mae Nick Clegg ei eisiau a dyma be mae'r Prif Weinidog [Carwyn Jones] ei eisiau.
"Bydd y pwerau benthyg newydd yn galluogi Cymru i fynd ati i wella'r M4 achos ar hyn o bryd mae'r ffordd yn droed ar bibell wynt yr economi ac rwyf am i Lywodraeth Cynulliad Cymru weithredu mor fuan ag sydd bosib er mwyn rhoi hwb i'r economi cyn gynted ag y bo modd.
"Rydym hefyd yn datganoli treth stamp a threth tirlenwi, a hefyd yn gwneud darpariaethau yn Nhŷ'r Cyffredin er mwyn rhoi hawl i Lywodraeth Cynulliad Cymru a Chynulliad Cymru i gynnal refferendwm ar ddatganoli rhan o'r dreth incwm petai nhw'n dewis gwneud hynny.
"Pobl Cymru fydd yn dewis os ydyn nhw eisiau'r weithred yna o ddatganoli pellach."
Comisiwn Silk
Mae cyhoeddiad heddiw yn gwireddu nifer o argymhellion Comisiwn Silk, dolen allanol a sefydlwyd gan Lywodraeth y DU i ystyried datganoli pellach, a pha bwerau ychwanegol (os o gwbl) y dylid eu datganoli.
Cyhoeddodd y Comisiwn ei adroddiad cyntaf, dolen allanol yn Nhachwedd 2012, ac mae disgwyl wedi bod ers hynny am ymateb San Steffan i'r argymhellion am bwerau ariannol.
Ni wnaeth Mr Cameron son am argymhelliad Comisiwn Silk i ddatganoli trethi busnes ond cadarnhaodd na fydd treth ar hedfan yn cael ei datganoli oherwydd yr effaith y gallai hynny yn ei gael ar y farchnad.
Yn ddiweddarach yn ystod y gynhadledd newyddion, dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg: "Mae'n foment bwysig, yn garreg filltir mewn datganoli pwerau i Gymru a cham mawr ymlaen yn yr adferiad economaidd rydym yn ei rannu.
'Carreg filltir'
"Nid dyma ddiwedd y ffordd - rydym yn edrych ymlaen at weld pa argymhellion sydd yn ail ran Adroddiad Silk y flwyddyn nesaf ond rydym wedi dangos heddiw ein bod yn barod i drosglwyddo pwerau i lawr ac ar draws pan mae gwneud hynny'n synhwyrol.
"Nid yn unig yma yng Nghymru ond yn yr Alban hefyd - ar ôl eu refferendwm ar annibyniaeth flwyddyn nesaf pan fydd yr Albanwyr yn pleidleisio tros aros yn y Deyrnas Unedig, bydd mwy o ddatganoli'n digwydd i'r gogledd o'r ffin.
"Mae'r pecyn yma heddiw yn rhoi pobl Cymru yn y sedd yrru ynghylch sut mae arian yn cael ei godi a'i wario - ar swyddi, isadeiledd a thai wrth i ni ddatganoli'r trethi stamp a thirlenwi.
"Er mai mater i bobl Cymru yw os ydynt eisiau datganoli treth incwm ein swydd ni yw gwneud yn siŵr bod hynny'n bosibl."
Disgwylir i adroddiad ar ail ran gwaith Comisiwn Silk, adolygiad o bwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gael ei gyhoeddi yn ystod gwanwyn 2014.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2013
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2013
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2013
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2013
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2013