Grwp cymunedol yn dechrau clirio rhan o waith dur Brymbo

  • Cyhoeddwyd
brymbo grwp
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r grŵp yn gobeithio creu ardal dreftadaeth ar y safle

Ym Mrymbo mae grŵp cymunedol sicrhaodd nawdd i greu canolfan dreftadaeth ar safle'r hen waith dur yn dechrau ar y gwaith clirio.

Bydd gweithwyr yn abseilio i lawr ffwrnais chwyth rhestredig Wilkinson er mwyn dechrau clirio coed oddi yno, a glanhau tu allan yr adeiliad.

Rhoddodd y gwaith y gorau i gynhyrchu dur yn 1980. Rwan, bwriad Grŵp Treftadaeth Brymbo yw creu ardal dreftadaeth.

Daeth yr arian i ddiogelu a datblygu'r safle, £97,000 i gyd, gan Gronfa Treftadaeth y Loteri, sy'n dweud fod yr adeiladau yn unigryw ac yn enghraifft o waith dur sy'n dyddio'n ôl i'r 18fed ganrif.

Creu canolfan i 'genedlaethau'r dyfodol'

Gobaith Grŵp Treftadaeth Brymbo yw creu ardal dreftadaeth yn ngogledd ddwyrain Cymru ar gyfer hen ddiwydiannau ardal Wrecsam a'r cyffiniau.

Ffynhonnell y llun, Ken Peters
Disgrifiad o’r llun,

Dydi'r safle heb gynhyrchu dur ers 1980

Mae cynlluniau i gyflwyno teithiau tywys o amgylch safleoedd hanesyddol, a bwriad i greu llyfrgell ddigidol o 3,000 o hen luniau ar gyfer defnydd ysgolion lleol, colegau a phrifysgolion.

Dywedodd Colin Davies, arweinydd y prosiect a chyn weithiwr yn y gwaith dur:

"Mi roedd mor bwysig bod cenedlaethau'r dyfodol yn dysgu sut le oedd y pentref a'r ardal gyfagos flynyddoedd yn ôl a dwi wrth fy modd nawr y bydd stori gweithfeydd Brymbo ar gof a chadw ac yn dod â chenedlaethau at ei gilydd."

Fe wnaeth y gwaith o gynhyrchu dur ddechrau yn ardal Brymbo tua 1761, pan etifeddodd John Wilkinson a'i frawd ffwrnais Y Bers gan eu tad.

Yn fuan wedyn fe wnaeth John Wilkinson brynu Neuadd Brymbo a chodi dwy ffwrnais yno - y cam cyntaf tuag at godi gwaith dur Brymbo.