Dementia: Loteri'n ariannu cyrsiau i ddioddefwyr

  • Cyhoeddwyd
Dementia
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cymdeithas Alzheimer's am gefnogi dioddefwyr a'u gofalwyr i fyw bywydau mwy cyflawn

Bydd cyrsiau i geisio sicrhau bod pobl â dementia yn rhan o'r gymuned yn dechrau oherwydd grant o £720,000 o'r loteri.

Y nod yw cynnal cyrsiau ymhob sir yn y gogledd a bydd y pynciau'n amrywio o gelf a drama i wneud cwiltiau.

Bydd y cyrsiau 10 wythnos ar gyfer dioddefwyr a'u gofalwyr.

Dywedodd rheolwr Cymdeithas Alzheimer's yng ngogledd Cymru mai'r nod oedd "hybu ymwybyddiaeth am ddementia a rhoi gwell dealltwriaeth o'r cyflwr i bobl, gan leihau'r stigma".

£723,513

"Rydym yn gobeithio y bydd y cynllun yn creu teimlad o gymuned lle gall pobl sydd â dementia fod yn aelodau blaenllaw o'r gymuned," meddai Jacky Bladini.

Mae Cymdeithas Alzheimer's wedi cael £723,513 gan Gronfa Fawr y Loteri er mwyn gweithredu cynllun i gefnogi pobl sy'n byw gyda dementia yng Nghymru.

Bydd yr arian yn galluogi i'r gymdeithas weithredu'r cyrsiau, sy'n gobeithio rhoi mwy o gefnogaeth i ddioddefwyr a'u gofalwyr a'u galluogi i fyw bywyd mwy cyflawn.

Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i gynnal nifer o gyfleoedd dysgu i oedolion gan gynnwys celf, drama, cwiltio, hanes teuluol a ffotograffiaeth.

Bydd y cyrsiau yn para am dair awr bob wythnos dros gyfnod o ddau fis a hanner.

Mae'r cynllun yn dibynnu ar wirfoddolwyr hefyd, ac mae'r gymdeithas yn awyddus i recriwtio 160 o wirfoddolwyr i gynorthwyo gyda'r gwaith.

'Un o bob tri yn dioddef'

Dywedodd Sue Phelps, cyfarwyddwr y Gymdeithas Alzheimer's yng Nghymru ei bod yn falch iawn cael y grant gan y Loteri.

"Bydd un ymhob tri dros 65 oed yn dioddef o ddementia felly mae hwn yn fuddsoddiad amserol iawn gan Gronfa Fawr y Loteri.

"Rydym yn gwybod bod pobl sy'n dioddef o ddementia yn teimlo'n unig ac ar ben eu hunain, ac mae'r cynllun hwn yn ceisio gwella hynny.

"Rydym am wneud i unigolion deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi o fewn eu teulu, cymuned a bywyd cyffredinol ac yn gobeithio y gallwn roi'r cefnogaeth i bobl sy'n dioddef yng Nghymru i fod yn fwy annibynol a chael gwell ansawdd bywyd.

"Bydd ffocws leol y cynllun yn ein galluogi i gyrraedd pobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig neu gymunedau sy'n anoddach eu cyrraedd."