Canghellor yn cyhoeddi Datganiad yr Hydref

  • Cyhoeddwyd
George Osborne
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i George Osborne godi ar ei draed tua 11:15am

Am 11:15am ddydd Iau mae disgwyl i'r Canghellor George Osborne godi ar ei draed i draddodi ei gynlluniau ariannol i'r DU yn Natganiad yr Hydref.

Mae'r datganiad wedi dod yn fwy pwysig yn y blynyddoedd diweddar - yn draddodiadol, roedd hwn yn datgelu cynlluniau'r llywodraeth am wariant yr holl adrannau tra bod y Gyllideb yn canolbwyntio ar drethi.

Ond mae'r ffiniau bellach yn fwy niwlog.

Roedd Datganiad Hydref 2012 a'r Gyllideb yn y gwanwyn eleni yn llawn cyhoeddiadau swmpus ac roedd dyfalu y byddai Mr Osborne yn fwy pwyllog y tro hwn wrth i'r economi ddangos arwyddion o adfywiad.

Er hynny mae disgwyl i Mr Osborne wneud cyhoeddiad am yr oed y bydd pobl yn derbyn pensiwn y wladwriaeth, gan gynyddu'r oed ymddeol yn gynt na'r hyn yr oedd wedi ei gyhoeddi'n flaenorol.

Mae'n glir hefyd y bydd yn cyhoeddi toriadau gwario ar gyfer adrannau Whitehall.

Eisoes mae wedi ysgrifennu at gydweithwyr yn y cabinet yn dweud y bydd £1bn yn llai mewn cyllidebau yn ystod y tair blynedd ariannol nesa'.

Ond bydd cyllidebau iechyd, ysgolion, cymorth tramor, llywodaeth leol, cyllid a thollau a'r gwasanaethau diogelwch yn cael eu hamddiffyn.

Gwybod yn barod

Mae rhai o'r newidiadau y mae disgwyl i'r canghellor eu cadarnhau ddydd Iau eisoes yn rhai gafodd eu datgelu yn y gwanwyn, sef :-

  • Treth incwm 1 - y lwfans personol yn codi i £10,000 o Ebrill 2014 ac yna'n codi yn unol â graddfa chwyddiant y CPI (Consumer Price Index) gan ddechrau yn 2015-16;

  • Treth incwm 2 - bydd y band cyflog sy'n talu graddfa dreth incwm o 20% yn cael ei gyfyngu rhwng £10,000 a £41,865, ac fe fydd y trothwy uchaf yn cynyddu 1% y flwyddyn yn unig gan olygu y bydd mwy yn talu'r raddfa uwch o dreth incwm, sy'n 40%;

  • Budd-daliadau - bydd ystod eang o fudd-daliadau ond yn cynyddu 1% yn unig am dair blynedd, gan gynnwys lwfans chwilio-am-waith, budd-dal tai, cymhorthdal incwm, lwfansau sy'n cefnogi pobl gydag anableddau neu salwch a budd-dal plant;

  • Pensiwn y wladwriaeth - bydd hwn yn codi 2.7% yn Ebrill 2014 i adlewyrchu'r cynnydd yng nghostau byw;

  • Bydd newidiadau mwy cymhleth hefyd i bensiynau preifat yn dod i rym ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf, gan gynnwys cyfyngu ar lwfansau treth y mae pobl yn eu cael wrth dalu i mewn o'r gronfa bensiwn.

Yn ogystal cafodd cynlluniau i ostwng cost biliau ynni eu cyhoeddi'n gynharch yn yr wythnos.

Datganoli

Mae'r BBC ar ddeall y bydd Mr Osborne yn cyflwyno cyfyngiad ar drethi busnes yng Nghymru a Lloegr sy'n golygu na fydd y trethi'n codi'n fwy na 2% yn hytrach na chael eu cysylltu gyda chwyddiant.

Y nod yw hybu cwmnïoedd a siopau ar y Stryd Fawr.

Dywedodd sylwebwyr fod hyn yn ddiddorol yng Nghymru gan fod trethi busnes yn un o'r materion fydd yn cael eu datganoli yn sgil cyhoeddiad diweddar Llywodraeth San Steffan am argymhellion Comisiwn Silk.

Does dim disgwyl i Lywodraeth Cymru gael yr hawl i amrywio trethi busnes tan o leia' gwanwyn 2015.

Byddai'r newid yn costio dros £300 miliwn i'r llywodraeth y flwyddyn nesaf ond yn yr Alban fe fydd cynghorau lleol yn cael amrywio pecynnau trethi busnes yn unol ag anghenion lleol.

Er bod darogan na fydd llawer o gynnwys newydd yn Natganiad yr Hydref, mae sylwebwyr gwleidyddol wedi dweud bod hwn yn gyfle i Mr Osborne ailosod yr agenda wleidyddol.

Taro'n ôl?

Er y bydd Mr Osborne yn dweud fod economi Prydain yn tyfu'n gynt na'r disgwyl, ni fydd yn dweud bod y gwaith ar ben.

Neges Ed Balls wrth ymateb i'r datganiad ar ran Llafur fydd bod yr adfywiad economaidd wedi digwydd er gwaethaf, ac nid oherwydd, polisïau Mr Osborne.

Mae'n draddodiad yn ystod y Gyllideb yn y gwanwyn fod y Canghellor yn cael yfed alcohol yn ystod ei araith.

Dyw'r fath draddodiad ddim yn bodoli ar gyfer Datganiad yr Hydref er y gallai Mr Osborne fod angen llymaid neu ddau erbyn iddo orffen siarad amser cinio.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol