Stormydd yn effeithio ar ogledd Cymru

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

arlein tywydd

Mae 90 o bobl yn parhau mewn canolfan hamdden wedi i lanw effeithio ar hyd at 400 o dai yn Y Rhyl. Ar un adeg roedd 400 yno.

Mae rhybuddion am lifogydd a'r manylion i gyd ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru, dolen allanol

Am 2pm dywedodd y gohebydd Sion Tecwyn: "Yn sicr, mae'r llifogydd wedi effeithio ar nifer fawr o dai yn Y Rhyl.

"Mae'r gwynt wedi bod yn weddol gryf ond y broblem sylfaenol yw'r llanw anarferol o uchel."

Awr yn ddiweddarach dywedodd y gohebydd Dafydd Evans: "Mae'r gwasanaeth tân yn amau bod y llifogydd yn effeithio ar tua 220 o dai.

"Ar hyn o bryd mae chwe injan dân yma, 30 o blismyn, a chychod yr RNLI a'r gwasanaeth tân yn cludo pobl o'u tai.

"Mae 'na deimlad bod y gwaetha' drosodd ond dyw hi ddim yn glir faint o waith cludo pobl i ddiogelwch sy' 'na."

400

Am 4pm dywedodd yr heddlu fod y risgiau'n gysylltiedig â gwynt cryf a llanw cryf wedi lleihau ond bod 400 wedi eu symud i Ganolfan Hamdden Y Rhyl.

Dywedodd y gwasanaeth tân fod 34 o alwadau wedi eu derbyn 10am a 2.30pm.

"Roedd y rhan fwya' yn Garford Road, Ridgeway Avenue a Coast Road," meddai llefarydd.

Hefyd roedd galwadau oherwydd llifogydd ym Mae Cinmel, Deganwy, Llandudno a Thalacre.

Ynghynt roedd risg uchel o lifogydd mewn dwy ardal yn Sir y Fflint, rhwng Caeglas a Bagillt ac yn Y Parlwr Du.

Oherwydd y risg cafodd trigolion y ddwy ardal eu hannog i adael eu cartrefi.

Ond erbyn y prynhawn nid oedd adroddiadau am lifogydd difrifol a chafodd y ganolfan orffwys yng Nghanolfan Hamdden Treffynnon ei chau.

Dywedodd y Prif Uwcharolygydd Jeremy Vaughan, sy'n rheoli ymateb yr asiantaethau ar draws y gogledd: "Er bod y perygl wedi mynd heibio rydym yn asesu'r sefyllfa ac yn cynnig help lle bo angen.

"Dylai pobl gadw golwg ar negeseuon y gwasanaethau brys ar-lein ar newyddion ar y radio a theledu."

Os yw rhywun, meddai, yn poeni am ei deulu neu ffrindiau yn ardal Y Rhyl dylai ffonio 01492 518383.

Ynghynt roedd risg uchel o lifogydd mewn dwy ardal yn Sir y Fflint, rhwng Caeglas a Bagillt ac yn Y Parlwr Du.

Pump ysgol

Disgrifiad o’r llun,

Daeth y tonnau dros yr amddiffynfeydd ym Mae Cinmel

Ffynhonnell y llun, Gerallttv
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai ffyrdd wedi eu cau ar hyd arfordir y gogledd

Ffynhonnell y llun, Peter McMillen
Disgrifiad o’r llun,

Gorlifodd y môr yng Nghonwy

Ffynhonnell y llun, RNLI Llandudno
Disgrifiad o’r llun,

Dyma oedd yr olygfa y tu allan i safle'r RNLI yn Llandudno

Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o dai yn ardal Bae Cinmel wedi eu heffeithio

Cafodd pump ysgol eu cau oherwydd y risg o lifogydd, Ysgol Gynradd Sealand, Ysgol Gynradd Sant Anthony yn Saltney (yn rhannol), Uned Bryn Tirion, Ysgol Gynradd y Fferi Isaf (yn rhannol), Ysgol Gynradd Saltney Ferry (yn rhannol), Ysgol Gynradd Goffa Saltney Wood (yn rhannol).

Yn y canolbarth am 12:50pm cwympodd coeden oedd yn pwyso 50 o dunelli metrig ar gar ar yr A40 ger Crughywel.

Aed â'r rhai yn y car i Ysbyty Neville Hall yn Y Fenni a'r gred yw nad yw'r anafiadau'n ddifrifol.

Mae'n debyg y bydd y ffordd ar gau am o leia' weddill y dydd.

Yn Yr Alban mae miloedd o bobl heb drydan a gwyntoedd mor gryf â 160 o filltiroedd yr awr.

Bu farw gyrrwr lori fawr wedi i'w gerbyd gael ei chwythu ar ben dau gar yng Ngorllewin Lothian, ac mae nifer o ddamweiniau wedi digwydd dros y DU.

Cafodd lori ei chwythu drosodd yn Newcastle, ac mae trenau wedi eu canslo yn Yr Alban.

Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Prydain wedi galw cyfarfod brys o bwyllgor Cobra i drafod y tywydd garw.

Mae sawl ffordd wedi eu cau ac ar un adeg roedd amodau gyrru yn anodd ar hyd yr A55 o Gaergybi ar Ynys Môn i Frychdyn yn Sir y Fflint oherwydd y gwyntoedd cryfion. Gellir gweld mwy o fanylion am broblemau traffig ar wefan Traffig Cymru, dolen allanol.

Cafodd trenau rhwng Caer a Chaergybi eu canslo ac roedd y lein rhwng Llandudno a Blaenau Ffestiniog ar gau oherwydd llifogydd yn Llanrwst.

Cadw golwg

Roedd gweithwyr y corff amgylcheddol yn cadw golwg ar y sefyllfa, gan wirio bod amddiffynfeydd yn gweithio yn iawn a bod unrhyw gridiau draenio yn glir.

Maen nhw'n dweud na ddylai pobl ymweld â glan y môr rhag ofn iddyn nhw gael eu llusgo i'r môr o achos y gwynt cryf.

Dywedodd y corff na ddylai pobl chwaith yrru na cherdded trwy ddŵr llifogydd oni bai eu bod wedi cael gorchymyn i wneud hynny gan y gwasanaethau brys.

Mae modd ffonio llinell llifogydd ar y rhif 0845 988 11 88.

Mae heddlu'r gogledd hefyd wedi dweud y bydd yna fwy o swyddogion o gwmpas yn ardal Rhyl a Bae Cinmel heno er mwyn cadw golwg ar eiddo sydd bellach yn wag am fod pobl wedi gorfod gadael eu tai.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol