Cwyno am gau canolfan i'r henoed yn Aberaeron

  • Cyhoeddwyd
Llun o law person hen
Disgrifiad o’r llun,

Cwyno am gynnig i gau canolfan henoed yn Aberaeron

Mae elusen sy'n darparu gwasanaethau ar gyfer pobl hŷn wedi beirniadu penderfyniad Cyngor Sir Ceredigion i gau canolfan yn Aberaeron er mwyn arbed arian.

Fe wnaeth cabinet y cyngor gymeradwyo cynnig i ail leoli gwasanaethau sy'n cael eu cynnal yn adeilad Tŷ Llundain.

Ond bydd y drefn bresennol yn parhau am y tro oherwydd bod pwyllgor archwilio'r am ystyried y mater yn y flwyddyn ariannol newydd.

Yno byddent yn trafod sut i arbed £9.6m.

Mae Tŷ Llundain yn gartref i elusen Age Cymru yngg Ngheredigion.

Byddai'r Cyngor yn arbed £34,000 y flwyddyn wrth symud y gwasanaeth o'r adeilad.

Archwiliad

Cyhuddodd Gwyneth Jones' sy'n gyd-gyfarwyddwr Age Cymru Ceredigion y Cyngor o fod yn n "ddiog" wrth gyflwyno toriadau o 5% ar eu gwasanaethau.

"Dylai'r Cyngor edrych ar gytundebau unigol a darparu adroddiad o'r effaith," meddai.

Ychwanegodd Ms Jones: "Mi fuasai cau Tŷ Llundain yn cael effaith distrywiol ar wasanaethau yng nghanol Ceredigion."

Dywedodd Ms Jones bod yr elusen yn darparu gwybodaeth a chyngor i tua 200 cleient o'u swyddfa yn Aberaeron.

Maent yn rhedeg gwasanaethau o Dŷ Llundain sy'n cynnwys clwb cinio tri diwrnod yr wythnos i 25 o bobl yn ogystal â dosbarthiadau ymarfer corff a chyfrifiaduron.

Meddai llefarydd ar ran Cyngor Ceredigion: "Yn y cyfarfod ar Dachwedd 26, penderfynodd y cabinet i gymeradwyo cynigion i arbed arian.

"Erbyn hyn mae'r penderfyniad wedi cael ei alw i mewn am archwiliad .

"Pe bai'r penderfyniad yn sefyll mi fyddwn yn edrych ar opsiynau eraill i'r clwb cinio ac rydym wedi gwneud trefniadau yn barod i gyfarfod gydag Age Cymru Ceredigion."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol