Ymarfer corff yn lleihau risg dementia mewn dynion canol oed
- Cyhoeddwyd
Mae ymarfer corff yn lleihau risg dynion canol oed o gael dementia pan maen nhw'n hŷn, yn ôl gwaith ymchwil gan Brifysgol Caerdydd.
Roedd yr astudiaeth yn edrych ar arferion iechyd dynion yn ardal Caerffili dros gyfnod o 35 mlynedd. Fe holwyd dros 2,200 o ddynion rhwng 45-59 oed.
Pum peth oedd yn bwysig er mwyn lleihau'r siawns o gael yr afiechyd - sef peidio ysmygu, diet iach, peidio yfed llawer o alcohol, cadw pwysau yn isel ac ymarfer corff yn gyson.
Mae'r ymchwil yn dangos fod pobl sydd yn dilyn pedwar o'r pump arfer da yma yn rheolaidd yn lleihau'r siawns o gael dementia 60%. Ymarfer corff oedd y ffactor mwyaf allweddol.
Yn ôl yr Athro Peter Elwood, o Adran Feddygaeth Prifysgol Caerdydd, mae'r astudiaeth yn dangos pwysigrwydd edrych ar ôl eich hun.
"Arwydd clir"
Dywedodd: "Yr hyn mae'r ymchwil yn dangos ydy bod dilyn bywyd iach yn dod â buddiannau anferth. Mae arferion iach yn rhoi mwy o fudd nag unrhyw driniaeth feddygol neu ddulliau i atal y salwch.
"Ond mae'n rhaid i'r unigolyn gymryd cyfrifoldeb a byw bywyd iach. Yn anffodus, mae'r dystiolaeth o'r astudiaeth yma yn dangos mai dim ond nifer fechan o bobl sydd yn dilyn bywydau iach."
Dywed Mr Elwood bod yna ostyngiad wedi bod ymlith y dynion oedd yn ysmygu yn ystod y cyfnod ond doedd dim newid yn y nifer oedd yn byw bywyd hollol iach.
Mae hyn yn cydfynd ag astudiaethau eraill sydd yn awgrymu bod llai nag 1% yng Nghymru sydd yn glynu at y pum ffactor oedd yn cael ei fesur yn yr astudiaeth.
Dyma'r darn o waith cyntaf i fesur ffactorau amgylchfyd am gyfnod cyn hired ac, yn ôl y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford, mae'n rhaid talu sylw i'r hyn mae'r canlyniadau yn dweud.
"Mae'n rhoi'r arwydd mwyaf clir bod y penderfyniadau rydyn ni'n gwneud ynglŷn â'r ffordd rydyn ni;n byw yn cael effaith ar ein hiechyd yn y dyfodol," meddai.
Cafodd yr ymchwil ei arianu gan y Gymdeithas Alzheimer, Sefydliad y Galon a Chyngor Ymchwil Meddygol.
Mae'r canlyniadau wedi eu cyhoeddi yn y cylchgrawn gwyddonol PLOS ONE.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2013
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2013
- Cyhoeddwyd20 Medi 2012