Adroddiad beirniadol o'r gofal i gleifion iechyd meddwl

  • Cyhoeddwyd
Menyw gyda'i phen yn ei dwylo
Disgrifiad o’r llun,

Gwraig yn diodde o salwch meddwl

Mae adroddiad gan reoleiddwyr annibynnol ar gyfer gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru yn feirniadol iawn o'r cymorth sydd ar gael i gleifion iechyd meddwl.

Yn eu hail adroddiad blynyddol, mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi canfod cleifion syn honni iddyn nhw gael eu gorfodi i dderbyn triniaeth yn yr ysbyty, arferion gwael o ran cadw cofnodion a chleifion nad oedd yn ymwybodol o'u hawliau.

Yn 2010-11 fe wnaeth yr Arolygiaeth holi 140 o gleifion a hefyd archwilio cofnodion tua 200 o gleifion.

Yn ôl yr Arolygiaeth roedd yna nifer o wendidau.

Roedd rhai cleifion yn teimlo fod yna bwysau arnyn nhw i dderbyn triniaeth neu wynebu cael eu cadw o dan amodau'r ddeddf iechyd meddwl.

Yn ôl yr Arolygiaeth roedd enghreifftiau o staff yn torri cod ymddygiad drwy beidio â chadw nodyn manwl o gofnodion cleifion,

'Siomedig'

Mewn rhai achosion roedd tystysgrif yn cydsynio i driniaeth wedi ei arwyddo ers dros ddwy flwydd.

Dywed elusen Mind eu bod yn bryderus iawn nad yw problemau fel hyn, sy'n dyddio nôl blynyddoedd heb, eu datrys.

Dywedodd Ruth Coombs o Mind Cymru ei bod yn siomedig fod problemau'r gorffennol yn codi eu pennau unwaith eto.

"Mae yna brinder staff yn y maes iechyd meddwl, ac mae hynny'n fwy na sydd i weld yn y maes iechyd yn gyffredinol.

"Mae'n bryder mawr clywed fod yna brinder seicolegwr."

Dywed Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n ystyried a oes angen rhagor o waith er mwyn sicrhau fod y sefyllfa yn cydfynd ag anghenion a disgwyliadau Deddf Iechyd Meddwl.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol