Galw am wahardd e-sigarennau mewn mannau cyhoeddus
- Cyhoeddwyd
Dylai sigarennau electronig gael eu gwahardd mewn mannau cyhoeddus, yn ôl swyddogion iechyd.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) yn dweud bod e-sigarennau yn tanseilio ymgyrchoedd atal ysmygu, a byddai eu gwahardd yn lleihau hyn.
Dywedon nhw nad yw e-sigarennau yn cael eu rheoleiddio, bod faint o nicotin sydd ynddyn nhw yn amrywio'n fawr ac nad yw hi'n bosib i ddefnyddwyr wybod os ydyn nhw'n ddiogel.
Daeth pôl diweddar gan raglen Breakfast y BBC i'r canlyniad bod y rhan fwyaf o bobl yn cefnogi eu defnydd mewn mannau cyhoeddus ac nad oedd pobl am eu gwahardd.
Normaleiddio ysmygu?
Mae'r Gymdeithas Feddygol Brydeinig eisoes wedi galw am wahardd e-sigarennau mewn mannau cyhoeddus, oherwydd pryderon eu bod nhw'n normaleiddio rhywbeth sydd erbyn hyn ddim yn dderbyniol yn gymdeithasol: ysmygu mewn mannau cyhoeddus.
Er hynny, mae dros filiwn o bobl yn y DU yn eu defnyddio.
Nid yw'r gwaharddiad ysmygu yn effeithio ar yr e-sigarennau, oherwydd eu bod yn defnyddio nicotin ar ffurf hylif, a dydyn nhw ddim yn creu mwg.
Mae ICC yn dweud eu bod wedi adolygu defnydd e-sigarennau oherwydd peth dryswch gan y cyhoedd a gweithwyr iechyd.
Dywedodd y Dr Julie Bishop, ymgynghorydd iechyd cyhoeddus i ICC: "Un o amcanion polisi rheolaeth tobaco yn y DU ac yn rhyngwladol oedd creu amgylchedd lle mai peidio ysmygu yw'r norm.
"Mae e-sigarennau yn dynwared ysmygu sigarét ac mae'r deunydd hyrwyddo yn debyg i hysbysebion sigarennau.
"Mae llawer mwy o waith i'w wneud ond mae unrhyw beth sy'n gwrth-droi gwelliannau yn creu risg i iechyd y boblogaeth."
Dim rheolaeth
Dywedodd bod faint o nicotin sydd mewn e-sigarennau yn amrywio yn fawr rhwng gwahanol frandiau, ac nad oes unrhyw ffordd i ddefnyddwyr wybod beth sydd yn yr e-sigarennau.
Mae pryder hefyd nad oes modd cynnal profion manwl ar e-sigarennau i sicrhau eu bod yn ddiogel, gan nad ydyn nhw'n cael eu rheoleiddio.
Yn ôl Dr Bishop, mae safbwynt ICC ar e-sigarennau yn ansicr.
"Fel sigarennau arferol, dylai e-sigarennau gael eu gwahardd mewn llefydd gwaith ac addysg, ac mewn mannau cyhoeddus i sicrhau nad yw eu defnydd yn tanseilio'r holl waith da sydd wedi mynd i mewn i atal ysmygu, drwy ei normaleiddio."
Mae ICC yn dweud bod rhywun yn marw o salwch yn ymwneud ag ysmygu bob 90 munud yng Nghymru, ac mai ysmygu yw'r achos fwyaf o salwch y gellir ei hosgoi a marwolaethau cynnar yn y DU.
Dywedodd Dr Pat Riordan, cyfarwyddwr yr Adran Gwella Iechyd, sy'n rhedeg Stop Smoking Wales, nad oedden nhw am elyniaethu'r rheiny sy'n defnyddio e-sigarennau er mwyn ceisio lleihau eu defnydd o sigarennau cyffredin.
"Wrth reoleiddio e-sigarennau, nid ydym yn ceisio lleihau defnydd y pethau y mae pobl yn eu gweld yn ddefnyddiol, yn hytrach am sicrhau bod pobl sy'n eu defnyddio yn gwneud hynny gyda hyder."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Medi 2013
- Cyhoeddwyd3 Medi 2013
- Cyhoeddwyd15 Mai 2013