BBC wedi gwario £360,000 yn nhribiwnlys breindaliadau Eos

  • Cyhoeddwyd
Eos
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i ddyfarniad ar gost trwydded darlledu gael ei gyhoeddi yn ddiweddarach

Mae'r BBC wedi gwario dros £360,000 yn mynd â chyfansoddwyr a chyhoeddwyr cerddoriaeth Gymraeg i dribiwnlys hawlfraint er mwyn datrys yr anghydfod dros freindaliadau.

Clywodd y tribiwnlys dystiolaeth gan y ddwy ochr ym mis Medi eleni, ac mae disgwyl i'r dyfarniad gael ei gyhoeddi ddydd Llun.

Roedd costau'r BBC yn cynnwys £27,720 ar gyfer tyst arbenigol, a chafodd dros £4,000 ei wario ar gostau teithio, llety a phrydau bwyd i'r rheiny fuodd i'r gwrandawiad yn Llys y Goron Caernarfon.

Mae'r BBC hefyd wedi cyfrannu £63,000 tuag at gostau cyfreithiol Eos, a £15,000 tuag at gostau tyst arbenigol Eos. Y cyfanswm dalodd y BBC ar y broses o gynnal tribiwnlys hawlfraint hyd yn hyn yw £363,526.22.

£1.5m

Roedd Eos, y gymdeithas sy'n rheoli hawliau darlledu llawer o gerddoriaeth Gymraeg boblogaidd, wedi dadlau mai £1.5 miliwn oedd gwerth trwydded flynyddol i'r BBC i ddarlledu'r holl ganeuon sy'n eiddo iddynt.

Clywodd y tribiwnlys fod y BBC yn barod i wario dim mwy na £100,000 ar y drwydded.

Ers cyrraedd cytundeb dros dro yn gynharach eleni, mae'r BBC wedi bod yn talu £120,000 am y drwydded, ond bydd dyfarniad ar gost newydd, gorfodol yn cael ei gyhoeddi gan y tribiwnlys yn ddiweddarach.

Yn ymateb i'r costau o fynychu'r tribiwnlys, dywedodd y BBC: "Roedd Eos yn chwilio am £1.5m y flwyddyn am yr hawliau i chwarae cerddoriaeth eu haelodau, sy'n cyfateb i swm o £4.5m dros gyfnod trwydded o dair blynedd.

"Mae'r ffigwr yma hefyd yn cynrychioli cynnydd o 12 gwaith y ffi dros dro blynyddol y cytunwyd arno gan y BBC ac Eos ym mis Chwefror.

"O ganlyniad, wrth ystyried y setliad gwerth miliynau o bunnoedd roedd Eos yn gofyn amdano, mae gwario £360,000 ar ffioedd cyfreithiol y ddwy ochr yn ddefnydd pragmatig a chyfrifol o arian talwyr ffi'r drwydded.

"Roedd e'n bwysig bod y ddwy ochr yn cael cyflwyno eu dadleuon yn y Tribiwnlys Hawlfraint a ry' ni'n gobeithio y bydd y penderfyniad, beth bynnag ei natur, yn arwain at gyfnod o sefydlogrwydd."

Anghytuno

Mae'r ddwy ochr wedi anghytuno am werth trwydded i chwarae'r gerddoriaeth ers i aelodau Eos ddechrau trosglwyddo eu hawliau darlledu o'r brif asiantaeth casglu breindaliadau, PRS for Music, yn 2012.

Roedd Eos wedi ceisio trafod yn uniongyrchol gyda'r BBC am daliadau uwch i'w haelodau, gan fod BBC Radio Cymru yn un o brif ddefnyddwyr cronfa gerddoriaeth Eos.

Ar Ionawr 1 eleni daeth y gerddoriaeth dan rym Eos yn swyddogol, ond roedd methiant i gyrraedd cytundeb gyda'r BBC wedi golygu fod rhaid i Radio Cymru wneud newidiadau i'r amserlen, a hefyd y math o gerddoriaeth oedd ar yr orsaf.

Daeth y gerddoriaeth dan reolaeth Eos yn ôl i'r tonfeddi chwe wythnos yn ddiweddarach, ar ôl i'r ddwy ochr gytuno ar gytundeb dros dro.

Ers rhai blynyddoedd mae aelodau Eos wedi bod yn anhapus am y taliadau maent yn derbyn pan mae gorsafoedd teledu a radio yn chwarae eu cerddoriaeth.

Mae darlledwyr, gan gynnwys y BBC, yn gwneud taliad blynyddol i PRS am yr hawl i ddarlledu'r holl weithiau sy'n cael eu gweinyddu gan y corff casglu.

Mae PRS yna yn defnyddio'r data sy'n dod gan ddarlledwyr ynglŷn â phryd mae'r caneuon penodol wedi cael eu chwarae, ac ar ba orsafoedd, er mwyn rhoi gwerth ariannol i'r gerddoriaeth. Yna mae taliadau yn cael eu dosbarthu i gyfansoddwyr a chyhoeddwyr y gerddoriaeth.

Yn 2007 newidiodd PRS for Music y dull o gyfrifo taliadau i gerddorion Cymraeg.

Roedd y newid yn cynnwys gostyngiad yng nghyfanswm y taliadau ychwanegol roedd rhai aelodau yn derbyn am berfformiadau cyhoeddus o'u gwaith mewn llefydd fel tafarnau a siopau.

Er i rai cerddorion Cymraeg gwyno i'r PRS am y newidiadau, roedd rhai ohonynt wedi mynd ati i dynnu eu hawliau darlledu allan o drefn y PRS a ffurfio Eos.

Roedd Eos wedi llwyddo i gyrraedd cytundeb newydd gydag S4C yn 2012, ond mae'n rhaid i'w haelodau ddibynnu ar y tribiwnlys hawlfraint i benderfynu faint fydd rhaid i'r BBC dalu i chwarae'r gerddoriaeth ar holl orsafoedd radio a theledu'r Gorfforaeth.