Storm yn dinistrio 20 o goed derw
- Cyhoeddwyd
Mae storm wedi dinistrio ryw 20 o goed derw mewn coedwig yng Ngwynedd.
Yn ôl Aled Morgan Jones, sydd yn ffermio a gyda busnes gwyliau yn Nantcol ger Harlech mae'n anhygoel na chafodd neb ei brifo.
Dywedodd bod y gwyntoedd cryfion wedi achosi "chwalfa lwyr" i'r goedwig.
Mae'r Swyddfa Dywydd yn dweud bod hi'n ymddangos bod glaw, cenllysg a stormydd tarannau wedi effeithio ar yr ardal.
Dim ond ryw 10 eiliad y parodd y storm. Mi oedd na law a tharanau ac wedyn gwyntoedd cryfion meddai Mr Morgan Jones.
"Anhygoel bod neb wedi brifo"
"Mae'n rhaid mai corwynt oedd o. Mi gafodd tua 20 o goed hen dderw eu chwalu yn ddarnau, nifer wedi eu codi o'u gwreiddiau. Mi oedd o yn chwalfa lwyr.
"Mae'n anhygoel bod na neb wedi brifo. Pe byddai na unrhyw un allan yn y gwynt yna dw i'n sicr y bydden nhw wedi cael ei lladd. Mi welon ni y polyn telegraff yn plygu drosodd. "
Ychwanegodd: "Yn ffodus, dim ond coed sydd wedi eu dinistrio, dim byd arall. Mae e wedi newid y tirlun yma- mae hen goeden dderw wedi ei thorri yn deilchion."
Yn ôl llefarydd y Swyddfa Dywydd mi gafwyd gwyntoedd hyd at 80 mya yng Nghapel Curig bnawn Sadwrn.
"Mi achosodd hynny dywydd bywiog iawn- glaw trwm iawn, cenllysg a stormydd taranau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2013