Disgwyl mwy o dywydd ansefydlog

  • Cyhoeddwyd
Tidal storm surge in Rhyl, December 2013Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r tywydd wedi achosi problemau yn barod mewn ardaloedd yng Nghymru y mis yma

Mae na rhybuddion am law trwm a gwyntoedd cryfion dros y dyddiau nesaf. Mewn rhannau o Gymru mae rhybudd melyn wedi ei rhoi am law ddydd Sadwrn ac eto ar gyfer dydd Llun a dydd Mawrth wythnos nesaf.

Dywed y Swyddfa Dywydd y gallai'r glaw nos Wener achosi llifogydd yn lleol dydd Sadwrn.

Mae na hefyd ddarogan y bydd y gwynt yn chwythu hyd at 70 milltir yr awr ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dweud ei bod yn cadw golwg ar y sefyllfa.

"Mae'r rhagolygon yn parhau i fod yn ansefydlog ddechrau wythnos nesaf gyda darogan y bydd mwy o wynt a glaw ddydd Llun a diwrnod Nadolig.

"Bydd swyddogion yn cadw golwg ar y rhagolygon ac yn gwneud yn siwr bod amddiffynfeydd llifogydd yn gweithio a bod afonydd ddim wedi eu blocio a allai achosi llifogydd," meddai llefarydd.

Mae'r rhybudd melyn ddydd Sadwrn ar gyfer de ddwyrain, de orllewin a chanolbarth Cymru.

Cadw golwg

Yn Rhondda Cynon Taf mae'r cyngor wedi gofyn i bobl leol i fod yn ymwybodol o'r posibilrwydd o dywydd garw.

Penwythnos diwethaf mi fu'n rhaid i bobl adael eu tai yn Nhreorci yn dilyn llifogydd.

Dywedodd y cynghorydd Andrew Morgan: "Gyda'r bygythiad fod yna storm sylweddol y penwythnos yma, mae angen i'n trigolion gael tawelwch meddwl y bydd swyddogion y cyngor yn cadw golwg ar y sefyllfa ac yn gweithio gyda'r tîm sydd yn gofalu am y strydoedd yn yr ardal. Byddwn yn delio gydag unrhyw sefyllfa yn syth a gan geisio peidio achosi gormod o drafferthion."

Ychwanegodd y dylai pobl ffonio'r cyngor os ydyn nhw yn gweld dreiniau wedi eu blocio ac maent yn annog y cyhoedd i gadw draw o goedwigoedd a pharciau rhagofn y bydd coed yn disgyn.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol