Ambiwlansys yn methu targed 999 eto
- Cyhoeddwyd
Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi methu targed ymateb i 65% o'r galwadau mwyaf brys o fewn wyth munud a hynny am y 17fed tro mewn 18 mis.
Roedd y ffigwr ym mis Tachwedd yn 63.2%. 65.2% oedd y ffigwr ym mis Hydref, sef y tro cyntaf i'r gwasanaeth gyrraedd y nod ers Mai 2012.
Mae Ceidwadwyr Cymru wedi dweud bod ffigwr Hydref yn ymddangos yn enghraifft ynysig.
Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru ymateb i'r ffigyrau diweddaraf maes o law.
Yn ôl ffigyrau diweddaraf Ystadegau Cymru, fe gafodd 68.6% o alwadau bygythiad i fywyd ymateb o fewn naw munud, 87.7% o fewn 15 munud a 94.2% o fewn 20 munud yn ystod mis Tachwedd.
Yn waeth
Roedd y ffigyrau yna hefyd yn waeth nag ym mis Hydref.
Dywedodd lelfarydd y Ceidwadwyr ar iechyd, Darren Millar AC: "Yn anffodus, mae'r manylion yn dangos amseroedd ymateb sy'n methu'r targedau ac mae ffigwr Hydref yn ymddangos fel 'blip'.
"Wedi 18 mis o fethiant fe wnaeth Carwyn Jones a Llafur Cymru glodfori'r ffigyrau diwethaf.
"Heddiw rwy'n disgwyl iddyn nhw ymddiheuro a sicrhau gwelliannau ar frys.
"Gyda'r potensial am dywydd llawer oerach dros yr wythnos i ddod, mae'r dirywiad mewn perfformiad yn bryderus iawn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2013
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2013
- Cyhoeddwyd30 Medi 2013