Perygl o 'donnau mawr iawn'

  • Cyhoeddwyd
Llifogydd
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y llun yma ei dynnu yn Llanelli ddydd Gwener

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn annog pobl i fod yn wyliadwrus gan fod gwyntoedd cryf ar y ffordd, gydag ardaloedd arfordirol yn debygol o gael eu heffeithio unwaith eto.

Mewn datganiad maen nhw'n dweud bod yr arfordir yn "parhau i fod yn lle peryglus".

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cynghori myfyrwyr sy'n byw mewn adeiladau ar hyd y ffrynt i beidio defnyddio ystafelloedd sy'n wynebu'r môr dros gyfnod y llanw uchel.

Mae mynediad i'r ystafelloedd hynny wedi ei wahardd rhwng 9.30yh nos Sul tan 12.30yb ddydd Llun.

Mae hysbysiad ar wefan y , dolen allanol yn dweud: "...yn dilyn cyngor gan Gyfoeth Naturiol Cymru i gadw draw o ardaloedd glan môr oherwydd malurion a gwyntoedd cryfion, rydym yn cymryd camau i ofyn i unigolion i adael llofftydd a cheginau sy'n wynebu'r môr."

Bydd gwyntoedd o'r de orllewin yn cryfhau dros nos ac mae disgwyl iddynt gyrraedd cyflymder o 60 milltir yr awr mewn rhai rhannau o Gymru.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru : "Rydym yn cynghori pobl i beidio mynd yn agos at y môr gan fod amodau'n parhau i fod yn beryglus, yn enwedig mewn llefydd sydd eisoes wedi cael eu difrodi gan y storm.

"Mae'r gwynt yn debygol o effeithio ar y llanw ddydd Llun gan achosi tonnau mawr iawn."

Rhybudd melyn

Yn ôl CNC yr ardaloedd sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio yw Ceredigion, Caernarfon, Caerfyrddin ac Abertawe.

Nos Sul roedd un rhybudd llifogydd, dolen allanol yn dal i fod mewn grym ar gyfer Dyffryn Dyfrdwy Isaf.

Mae'r Swyddfa'r Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn oherwydd eu bod yn darogan y gallai hyd at 30mm o law syrthio ar dir uchel.

Dywedodd llefarydd: "Bydd y glaw ychwanegol yma, sy'n dilyn tywydd gwlyb iawn, yn golygu y dylai'r cyhoedd fod yn ymwybodol fod risg uwch o ddŵr ar yr wyneb, afonydd yn gorlifo a phroblemau trafnidiaeth."

Dyw pethau ddim eto'n ôl i'r arfer ers y storm ddiwethaf, gyda lôn wedi ei chau ar Bont Hafren oherwydd cryfder y gwynt a'r A487 yn Niwgwl yn parhau i fod ynghau oherwydd llifogydd.

Roedd rhybudd rhew wedi bod dros nos a chafodd yr A4067 ei chau am gyfnod wedi damwain oedd yn ymwneud â cherbyd ger cylchfan Glais yn Abertawe.

'Cadwch yn ddiogel'

Disgrifiad o’r llun,

Gwelwyd tonnau mawr yng Nghricieth dros y penwythnos

Mae'r RNLI yn rhybuddio pobl i beidio rhoi eu hunain mewn sefyllfaoedd peryglus wedi iddynt orfod achub dyn 21 mlwydd oed gyda bad achub wedi iddo fynd yn sownd wrth iddo dynnu lluniau o'r tonnau ar lanfa ar draeth Aberystwyth.

Gwelodd bobl oedd yn pasio ei fod yn edrych fel ei fod mewn trwbl felly fe ffonion nhw 999.

Mi fethodd yr heddlu â'u cyrraedd felly rhaid oedd galw'r RNLI i ddod i helpu.

Dywedodd llefarydd ar ran RNLI Aberystwyth: "Gan fod y tywydd eithafol yn denu pobl at y lan, rydym yn adleisio'n rhybudd i'r cyhoedd gadw'n ddiogel drwy gadw i ffwrdd o'r lan ac o donnau peryglus.

"Mae'r digwyddiad yma'n tynnu sylw at y peryglon, nid yn unig i'r dyn oedd yn tynnu'r lluniau ond hefyd i'n criw a gwasanaethau brys eraill oedd yn gorfod mynd allan a'i achub."

Aberystwyth welodd y gwaethaf o'r tywydd garw ac mae'r gwaith clirio yno yn parhau.

Mae'r brifysgol yn argymell na ddylai myfyrwyr ddod yn ôl y penwythnos yma ac maen nhw wedi gohirio arholiadau mis Ionawr am wythnos.

Dywedodd yr is-ganghellor Rebecca Davies fod rhyw 120 o fyfyrwyr wedi gorfod gadael eu llety oherwydd y storm.

"Mae ein llety nawr yn gwneud swyddogaeth wal fôr, fwy neu lai," meddai.

Cafodd ardaloedd o Wynedd hefyd eu heffeithio'n ddrwg gan lifogydd, gan gynnwys Pwllheli a'r Bermo.

Yn ogystal roedd llifogydd mewn rhannau o Sir Gâr.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol