Cabinet yn cefnogi cynllun i arbed £9.6m
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorwyr yng Ngheredigion wedi cytuno i barhau â chynllun i arbed £9.6m yn y flwyddyn ariannol nesaf.
Fis diwethaf, pleidleisiodd pwyllgor craffu o blaid gofyn i'r cabinet ail-ystyried y cynllun a'r toriadau i wasanaethau.
Ond ddydd Mawrth penderfynodd y cabinet fwrw 'mlaen â'r cynllun.
Bydd yn cael ei drafod gan bwyllgorau craffu ar Ionawr 30 cyn i'r cyngor benderfynu ar gyllideb 2014/15 ym mis Chwefror.
Roedd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol wedi nodi pryder am ddiffyg eglurder yn y broses a'r "rhyngweithio cyhoeddus" i drafod y cynlluniau, mewn cyfarfod ar Ragfyr 17.
Cau llyfrgelloedd
Cafodd penderfyniad gwreiddiol y cabinet i gefnogi'r cynllun i arbed £20.85m dros dair mlynedd ei alw i mewn gan gynghorwyr o'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Roedden nhw'n honni nad oedd y cynlluniau'n "ddigon manwl" i wneud penderfyniad synhwyrol ar effaith y toriadau ar drigolion Ceredigion.
Ymysg y cynlluniau, mae cau llyfrgelloedd yn Nhregaron a Chei Newydd, cau canolfan i'r henoed yn Aberaeron, ac arbed £2m drwy gynyddu'r nifer o ddisgyblion i bob athro o 16-i-un i 17-i-un.
Hyd yn oed wedi'r toriadau arfaethedig byddai'r cyngor angen dod o hyd i £1m o arbedion ychwanegol i gyrraedd y darged yn y flwyddyn ariannol nesaf.
Datgelodd cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru fis Hydref, y byddai toriadau o 5.81% i gyllid llywodraeth leol ledled Cymru, gyda thoriad o 4.6% yng Ngheredigion.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2013
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2013