Cytundebau meddygon teulu i newid
- Cyhoeddwyd
Mi fydd newidiadau radical yn y ffordd mae meddygon teulu yng Nghymru yn cael eu talu yn caniatáu iddyn nhw dreulio mwy o amser yn trin cleifion.
Dyna mae'r gweinidog iechyd Mark Drakeford wedi ei ddweud wrth iddo gyhoeddi manylion cytundeb newydd rhwng doctoriaid a Llywodraeth Cymru.
Mae'n honni bydd y cytundebau yn helpu i gael gwared â'r fiwrocratiaeth sydd yn wynebu'r doctoriaid ac yn lleihau'r pwysau ar ysbytai.
Dywed cynrychiolwyr o Gymdeithas Feddygol y BMA, wnaeth drafod y newidiadau ar gyfer 2014/15, y bydd y cytundebau yn helpu i leihau "meddygaeth ticio bocsys" ac yn caniatáu iddyn nhw allu "teilwra'r gofal gorau i gleifion unigol."
Maen nhw hefyd yn dweud y bydd y newidiadau yn golygu y bydd llai o feddygon teulu yn rhoi'r gorau i'w gwaith.
Yn y gorffennol roedd meddygfeydd yn cael rhywfaint o'u harian trwy lwyddo i gyflawni 969 o wahanol fesurau. Roedden nhw yn cynnwys monitro faint o'u cleifion oedd gyda mathau gwahanol o afiechydon neu gwiro pwysau gwaed cleifion yn gyson.
Mae'r cytundebau newydd yn lleihau nifer y mesurau i 300.
Yn ôl y gweinidog iechyd mi fydd llai o fiwrocratiaeth yn galluogi meddygon teulu i wneud mwy o ddefnydd o'u sgiliau.
Barn doctoriaid
"Roedd meddygon teulu yn cael eu talu yn ôl 900 o fesurau gwahanol... Felly bob tro roedden nhw eisiau cael eu talu am rywbeth roedd yn rhaid iddyn nhw lenwi taflen neu adroddiad yn dweud beth oedden nhw wedi gwneud.
"Roedd hynny yn ffordd hir wyntog o wneud pethau... Dw i wedi bod yn teimlo ers peth amser bod angen newid pethau i adael i feddygon teulu gael dweud eu dweud am sut y dylai gofal claf gael ei drefnu.
"Rydyn ni wedi mynd gam ymhellach nag unrhyw le arall ym Mhrydain ac wedi cael gwared â mwy o'r mesurau nag unrhyw le arall."
Yn Lloegr cafodd yr asesiadau eu lleihau y llynedd.
Mae Charlotte Jones, cadeirydd BMA pwyllgor meddygon teulu Cymru yn dweud y bydd y newidiadau yn dod a buddiannau. Roedd hi yn rhan o'r trafodaethau gyda'r llywodraeth. Ond mae'n cyfaddef y bydd rhai doctoriaid yn ddrwgdybus.
Methu plesio pawb
"Fydd e ddim yn unig yn golygu mwy o apwyntiadau ond fyddwn i ddim yn gorfod creu anghyfleustra i gleifion trwy eu galw nhw i mewn ar gyfer adolygiadau rheolaidd.
"Mi fydd e hefyd yn golygu y bydd mwy o adnoddau ar gael ar gyfer y GIG. Mi fyddwn ni yn gofyn am lai o ymchwiliadau a dim ond ymchwiliadau anghenrheidiol."
"Dw i'n siwr y bydd rhai (doctoriaid) yn feirniadol ac yn dweud nad yw'r newidiadau yn mynd ddigon pell. Allwn ni ddim plesio pawb trwy'r amser... Ond dw i wir yn meddwl ein bod ni wedi gwneud y gore' y gallwn ni ar gyfer y proffesiwn yng Nghymru."
Tra y bydd rhai mesurau yn diflannu bydd rhai eraill yn cael eu hadolygu.
Bydd cymhelliad ariannol i feddygfeydd ddarparu gwell gwasanaeth i gleifion gyda chanser, rhai sydd yn dod at ddiwedd eu bywydau neu unigolion sydd yn hen neu fregus.
Lleihau pwysau
Mae hefyd cymhelliad i gael meddygfeydd sydd yn agos at ei gilydd i gydweithio fel grwpiau ac mi fydd meddygfeydd mewn ardaloedd mwy difreintiedig yn medru cael mwy o arian.
Mae Mark Drakeford yn gobeithio y bydd y newidiadau yn helpu i leihau pwysau ar yr adrannau brys.
"Mae pobl sydd yn dod i'r adrannau brys yn aml yn 85 oed neu yn hyn. Rydyn ni yn gwybod bod 'na fwy y gallwn ni wneud i edrych ar eu hôl nhw adref ac rydyn ni wedi newid pethau o fewn y cytundeb i'w gwneud hi'n haws i feddygon teulu ganolbwyntio ar y tri pheth yna."
Mae caniatáu i fwy o bobl weld y meddyg teulu tu allan i oriau gwaith wedi bod yn un o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ers yr etholiad diwethaf. Ond dyw'r cytundeb yma ddim yn gorfodi doctoriaid i ymestyn eu horiau.
Er hynny mae'r gweinidog iechyd yn mynnu y bydd cleifion yn gweld y bydd hi yn haws i wneud apwyntiadau.
Fydd y cytundeb newydd ddim yn golygu codiad cyflog i feddygon teulu am fod yr arian sydd yn cael ei roi ar gyfer y maes yn aros yr un peth.
Yn 2011/12 y cyflog ar gyfer meddyg teulu oedd yn gyfrifol am redeg y feddygfa oedd £92,000 ar gyfartaledd. Cyflog meddyg teulu oedd yn cael ei gyflogi gan y feddygfa oedd £55,000 ar gyfartaledd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd12 Awst 2013
- Cyhoeddwyd1 Awst 2013
- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2013