Presgripsiwn: 150 yn protestio yn erbyn Morrisons

  • Cyhoeddwyd
Harley Mann
Disgrifiad o’r llun,

Mi oedd Harley Mann wedi dechrau teimlo'n sâl nos Sul

Roedd tua 150 o bobl yn bresennol mewn protest yn erbyn penderfyniad archfarchnad Morrisons Bangor i beidio rhoi meddyginiaeth i gwpl o Wynedd am fod y presgripsiwn yn Gymraeg.

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wnaeth drefnu'r brotest wedi'r digwyddiad ddechrau'r wythnos.

Yn ôl y mudiad iaith fe ddylai'r archfarchnad ymddiheuro ac maen nhw wedi cysylltu gyda Chomisiynydd y Gymraeg gan ofyn a oes modd dwyn camau cyfreithiol yn erbyn y cwmni.

Roedd Aled ac Alys Mann, o'r Felinheli wedi gorfod mynd yn ôl at y feddygfa i gael presgripsiwn yn Saesneg cyn eu bod nhw'n medru cael meddyginiaeth ar gyfer eu mab, Harley, gan yr archfarchnad.

Roedd Mr a Mrs Mann ddim yn y brotest ond roedden nhw wedi rhoi sêl bendith i'r digwyddiad.

Mae cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Robin Farrar, yn dweud bod y sefyllfa yn annerbyniol.

"Mae'r hyn mae Morrisons wedi ei wneud yn gwbl groes i'r statws swyddogol sydd gan y Gymraeg, ac wedi peri loes i'r teulu.

"Rydyn ni wedi ysgrifennu at y cwmni gan fynnu eu bod yn ymddiheuro'n syth a'u bod yn cadarnhau na fyddan nhw'n caniatau i'r fath beth ddigwydd eto.

"Rydyn ni wedi cysylltu â Chomisiynydd y Gymraeg hefyd gan ofyn iddi ystyried beth yw'r posibiliadau o ran dwyn camau cyfreithiol yn erbyn y cwmni."

Dôs cywir

Wedi'r hyn a ddigwyddodd ddechrau'r wythnos dywedodd yr archfarchnad bod gyda nhw ganllawiau caeth pan maen nhw'n paratoi presgripsiwn, a bod y canllawiau'n nodi bod yn rhaid i'r wybodaeth fod yn Saesneg neu'n ddwyieithog.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Morrisons yn dweud fod yn rhaid i'r presgripsiwn fod yn Saesneg neu'n ddwyieithog

Mae'r canllawiau yna yn eu lle meddai'r llefarydd er mwyn "gwneud yn siŵr bod y dôs cywir yn cael ei roi".

Roedd Harley Mann wedi dechrau teimlo yn sâl nos Sul.

Presgripsiwn Cymraeg gafon nhw gan y meddyg teulu y diwrnod wedyn am fod y meddyg yn siarad Cymraeg.

"Aethom ni i Tesco Bangor ond doedd y feddyginiaeth oedd ei angen ddim mewn stoc," meddai Mr Mann.

"Wnaethon nhw ffonio o gwmpas a'r unig le oedd efo'r feddyginiaeth oedd Morrisons Bangor.

"Ond roedden nhw'n gwrthod ei roi o oherwydd ei fod [y presgripsiwn] yn Gymraeg."

Ar ôl cael y presgripsiwn Saesneg mi gafodd y teulu'r feddyginiaeth.

Ar ddechrau'r wythnos mi gyhoeddodd y prif Weinidog, Carwyn Jones y safonau iaith.

Mae disgwyl i rhai cyrff lynu atyn nhw fel y parciau cenedlaethol, y cynghorau a Llywodraeth Cymru ac mi fydd Comisiynydd y Gymraeg yn asesu sut y dylai'r safonau gael eu mabwysiadau.

Wedi'r brotest ychwanegodd Mr Farrar: "Dylai fod gan bawb yr hawl i fyw yn Gymraeg - o'r meddygon sydd eisiau gweithio yn Gymraeg i'r cleifion sydd am dderbyn triniaeth yn Gymraeg.

"Dylai'r digwyddiad ein hatgoffa bod angen i'r safonau iaith - rheoliadau Llywodraeth Cymru fydd yn gosod dyletswyddau ar gyrff i ddarparu gwasanaethau Cymraeg - wneud yn siŵr nad yw problemau difrifol fel hyn yn dal i godi.

"Mae angen sicrhau bod y safonau sy'n ymwneud â'r gwasanaethau iechyd yn rhoi hawl i'r Gymraeg.

"Ond hefyd, mae angen sicrhau bod deddfwriaeth iaith yn ymestyn dros ragor o'r sector breifat, megis archfarchnadoedd."

Safonau cryf

Dydd Llun dywedodd Cymdeithas yr Iaith bod yna beryg y bydd y safonau yn cynnig gwasanaeth gwaeth i'r cyhoedd na'r hyn sydd ar gael ar hyn o bryd.

Ac mae Mr Farrar yn dweud bod hi'n bwysig bod y maes iechyd yn cael ei ystyried.

"Mae angen sicrhau bod y safonau sy'n ymwneud â'r gwasanaethau iechyd yn rhoi hawl i'r Gymraeg.

"Ond hefyd, mae angen sicrhau bod deddfwriaeth iaith yn ymestyn dros ragor o'r sector breifat, megis archfarchnadoedd."

Roedd y brotest tu allan i archfarchnad Morrisons ym Mangor ac ymlith y siaradwyr yr oedd Aelod Seneddol Arfon, Hywel Williams, y cynghorydd Sian Gwenllian a Sian Howys o Gymdeithas yr Iaith.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol