AC yn poeni am y gost o gyflogi meddygon llanw
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wario dros £50 miliwn ar gyflogi meddygon llanw dros y tair blynedd ddiwethaf.
Daeth y ffigyrau i law ar ôl cais o dan y ddeddf Rhyddid Gwybodaeth gan yr aelod cynulliad Antionette Sanbach.
Mae'r Bwrdd Iechyd wedi cyfaddef iddyn nhw gael problemau yn denu doctoriaid yn y gorffennol, a'i bod nhw'n ceisio ymateb i'r problemau.
Yn ôl Ms Sanbach cafodd 2,571 o feddygon llanw eu cyflogi rhwng Mawrth 2010 ac Ebrill 2013.
Cafodd yr arian ei dalu i asiantaethau.
Dyw'r ffigwr ddim yn cynnwys meddygon llanw oedd yn cael eu cyflogi yn uniongyrchol gan y Bwrdd Iechyd.
Ar hyn o bryd mae yn 112 o feddygon llanw yn gweithio i'r Bwrdd Iechyd.
"Rwyf wedi fy synnu gan y ffigyrau - mae £50,504,000 yn swm anferth.
"Byddai unrhyw gwmni tebyg yn gofyn pam fod mwy na £1 miliwn y mis yn cael ei wario am staff dros dro, pam nad oes modd llenwi'r swyddi yn barhaol.
"Fis diwethaf fe wnaethom glywed bod disgwyl i'r bwrdd iechyd wneud colled o £29 miliwn, a mis Rhagfyr diwethaf roedd angen i'r cynulliad roi help llaw o £15 miliwn."
Dywed y bwrdd iechyd fod staff llanw yn chwarae rhan bwysig wrth gynnal gwasanaethau clinigol, gan sicrhau nad oes yna unrhyw amharu ar ofal cleifion.
"Mae'r rhan fwyaf o benodiadau yn ymwneud ag absenoldeb annisgwyl aelodau o staff oherwydd salwch neu gyflwr annisgwyl. Mae hefyd yn ymwneud a chyfnod mamolaeth - neu tra bod y bwrdd yn y broses o recriwtio staff," meddai llefarydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Awst 2013
- Cyhoeddwyd22 Awst 2013
- Cyhoeddwyd15 Awst 2013
- Cyhoeddwyd8 Awst 2013