Pwerau treth 'yn ddiwerth,' medd Carwyn Jones
- Cyhoeddwyd
Mae'r pwerau dros dreth incwm allai gael eu rhoi i Gymru yn ddiwerth, yn ôl y Prif Weinidog Carwyn Jones.
Ddydd Llun mae'n rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor Materion Cymreig ym Mae Caerdydd ar ddeddfwriaeth fyddai'n rhoi pwerau benthyg i Lywodraeth Cymru a rheolaeth dros rai trethi fel treth stamp.
Ar raglen Sunday Politics BBC Cymru fe ddywedodd fod rhaid ail-edrych ar y ffordd y mae Cymru yn cael ei hariannu o San Steffan cyn ystyried pwerau treth incwm.
Mae'r Ysgrifennydd Gwladol David Jones wedi dweud y byddai'r ddeddf yn helpu'r llywodraeth i gefnogi twf economaidd.
Oherwydd Mesur Cymru bydd y llywodraeth yn gallu amrywio treth incwm wedi refferendwm.
Cyfyngiadau
Ond mae Llywodraeth y Glymblaid yn Llundain wedi mynnu y bydd cyfyngiadau, na fydd Llywodraeth Cymru'n gallu amrywio bandiau treth yn unigol.
Os yw Llywodraeth Cymru'n gostwng y gyfradd sylfaenol o geiniog, yna byddai rhaid iddi ostwng pob cyfradd arall o geiniog.
"Mae'n debyg i gael car," meddai Mr Jones ar y rhaglen, "ond bod dim ond un gêr.
"O ran hybu'r economi, mae'n eitha' diwerth."
Pan gafodd y mesur drafft ei gyhoeddi yn Rhagfyr dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol: "Bydd y mesur drafft yn galluogi'r llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru i fod yn fwy atebol ac i wneud mwy i gefnogi twf economaidd.
"Trwy'r mesur hwn bydd Llywodraeth y DU yn darparu pecyn uchelgeisiol i Gymru.
"Ond cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru fydd elwa o'r cyfle a symud twf economaidd Cymru yn ei flaen gyda'r pwerau sy'n cael eu cynnig."
Sunday Politics Wales, BBC Un, 11am
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2013