Angen i Lywodraeth Cymru fod yn 'feiddgar' medd David Jones

  • Cyhoeddwyd
David Jones a Paul Silk
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth David Jones AS (chwith) groesawu'r cyhoeddiad gwreiddiol am bwerau ariannol

Mae ysgrifennydd Cymru wedi dweud y dylai Llywodraeth Cymru dorri trethi os y caiff hi'r pwer i amrywio cyfradd treth incwm yn y dyfodol.

Dywedodd David Jones y byddai'r addewid y byddai ceiniog yn cael ei gymryd oddi wrth gyfradd dreth incwm yn rhoi "mantais gystadleuol" i economi Cymru.

Mae Llywodraeth Prydain wedi dweud y bydd Llywodraeth Cymru'n cael yr hawl i gynnal refferendwm i benderfynu a fydd rhai pwerau trethi yn cael eu datganoli.

"Bydd yn rhaid iddyn nhw [Llywodraeth Cymru] fod yn ddigon beiddgar os oes na ganlyniad positif yn y refferendwm i leihau'r gyfradd dreth. Dw i yn credu bod angen i ni benderfynu pa fath o lywodraeth ydyn ni mynd i gael.

"Ydyn ni yn mynd i gael llywodraeth ofnus sydd wastad yn mynd ar ofyn y Trysorlys yn Llundain neu ydyn ni yn mynd i gael llywodraeth uchelgeisiol sydd eisiau gwneud Cymru yn fwy cyfoethog?"

Mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones wedi dweud ei fod yn credu mai "trap" fyddai trosglwyddo'r pwer dros dreth incwm heb newid y ffordd mae Cymru'n cael ei hariannu gyntaf.

'Tawel'

Dywedodd ysgrifennydd Cymru wrth aelodau'r pwyllgor materion Cymreig bod llywodraeth Cymru yn 'dawel' ar y pwnc o gynnal refferendwm.

Ond roedd yn amddiffyn cynlluniau i gynnal refferendwm cyn eu bod yn cael rhywfaint o bwerau dros gyfraddau incwm, gan ddweud bod pleidlais debyg wedi digwydd yn yr Alban.

Cadarnhaodd hefyd y bydd cynllun drafft yn cael ei gyhoeddi yn fuan fydd yn rhoi'r hawl i Aelodau Cynulliad sefyll mewn etholiadau ar y rhestr etholaeth ac ardal.

Roedd hyn wedi ei wahardd dan y llywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig am fod yna wleidyddion wedi colli yn yr etholaeth ond yn medru cael sedd ar y rhestr.

Bydd y mesur drafft yn rhoi manylion ynglŷn â faint o arian bydd Llywodraeth Cymru yn gallu benthyg o dan gynlluniau i ddatganoli rhai pwerau ariannol i Gymru.