Cannoedd yn symud o'u neuaddau yn Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
AberystwythFfynhonnell y llun, Mark lewis
Disgrifiad o’r llun,

Mae myfyrwyr wedi eu symud o neuaddau preswyl yn Aberystwyth oherwydd rhybudd o dywydd garw dros y penwythnos.

Mae pobl cymunedau arfordir Cymru wedi cael rhybuddion o lifogydd oherwydd llanw uchel a gwyntoedd cryf.

Yn ôl rhai, fe allai'r tywydd fod yn debyg i'r gwynt a glaw achosodd lifogydd ddechrau Ionawr, gan ddifrodi amddiffynfeydd.

Mae manylion y rhybuddion llifogydd ar wefan Asiantaeth yr Amgylchedd, dolen allanol.

Yn y cyfamser, mae myfyrwyr yn Aberystwyth wedi eu symud o neuaddau preswyl brynhawn Gwener a bydd canolfannau hamdden yn Aberystwyth ac Aberteifi ar gael os yw pobl yn gorfod symud o'u tai ddydd Sadwrn.

Disgrifiad o’r llun,

Mae gweithwyr wedi bod yn trwsio amddiffynfeydd

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) y byddai llanw uchel a gwyntoedd cryfion yn creu risg uchel o lifogydd nos Wener a bore Sadwrn.

Mae disgwyl llanw uchel iawn yn Aberdaugleddau, Aberystwyth, Caergybi a Llandudno, gyda'r llanw ar ei uchaf fore a nos Sadwrn.

Dywedodd Trenau Arriva Cymru brynhawn Gwener fod llifogydd ar y lein rhwng Porth a Pontypridd, a bod bysiau yn cludo teithwyr yn lle.

Cafodd yr A490 ei chau i'r ddau gyfeiriad oherwydd dŵr ar y ffordd rhwng cylchfan Sarn-y-Bryn-Caled yn y Trallwng a Phont Cilcewydd.

Roedd llifogydd hefyd yn effeithio ar yr A487 yn Eglwyswrw, Sir Benfro.

Cafodd cannoedd o fyfyrwyr yn Aberystwyth eu symud o neuaddau preswyl brynhawn Gwener.

Mae darlithoedd wedi eu canslo tan ddydd Mawrth.

Nos Wener dywedodd llefarydd ar ran y brifysgol: "Rydyn ni'n falch o adrodd bod yr holl fyfyrwyr o Breswylfeydd Glan y Môr y brifysgol wedi eu hailgartrefu neu wedi derbyn cynnig y brifysgol i deithio adre' neu i ran arall o'r Deyrnas Gyfunol am y penwythnos oherwydd llanw uchel a stormydd.

"O'r 600 o fyfyrwyr sy'n byw mewn llety prifysgol neu sector breifat ar lan y môr mae tua hanner ohonyn nhw wedi dewis symud i lety arall wedi'i ddarparu gan y brifysgol neu fynd i aros gyda ffrindiau yn Aberystwyth a'r ardal gyfagos.

"Mae mwy na thrydedd o'r myfyrwyr wedi derbyn cynnig y brifysgol o deithio adre' neu o Aberystwyth tan i'r amgylchiadau wella."

Roedd angen i fyfyrwyr Preswylfeydd Glan Môr symud o'u llety erbyn 4pm.

Ionawr gwlypaf

Mae ffigyrau'r Swyddfa Dywydd yn dangos mai dyma'r mis Ionawr gwlypaf ers 40 mlynedd, gyda 246.9mm o law wedi disgyn hyd at Ionawr 28.

Dywedodd CNC y byddai'r llanw ar ei uchaf fore Sadwrn, ac yna eto nos Sadwrn, ac y byddai'r gwynt yn parhau tan ddechrau'r wythnos nesaf.

Ffynhonnell y llun, Mark lewis
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd prom Aberystwyth ei ddifrodi ddechrau mis Ionawr

Cadw draw

Mae'r corff yn annog pobl i gadw draw o'r môr dros y dyddiau nesaf gan y gallai pobl gael eu tynnu allan i'r dŵr neu gael eu taro gan rwbel.

Dywedon nhw eu bod am sicrhau bod amddiffynfeydd mewn cyflwr da a gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod cymunedau wedi paratoi.

Mae Gwasanaeth Tân y Canolbarth yn annog pobl i fod yn wyliadwrus gan fod y tywydd drwg yn peri risg fawr i'r canolbarth a'r gorllewin.

Dywedodd cyfarwyddwr risg y gwasanaeth, Chris Davies: "Drwy wneud rhai paratoadau gallwch leihau difrod y llifogydd yn sylweddol, yn enwedig mewn ardal lle mae perygl mawr o lifogydd.

"Bydd y gwasanaethau brys, cynghorau a Cyfoeth Naturiol Cymru yn helpu lle mae'n bosib ond mae'n hollbwysig eich bod yn cymryd camau eich hunain i ddiogelu eich tai a'ch busnesau."

Mae mwy o fanylion ar gael ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru, dolen allanol.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol