ACau Ceidwadol yn wfftio sylwadau David Jones

  • Cyhoeddwyd
Andrew R T DaviesFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Mae ACau Ceidwadol wedi dweud bod sylwadau Andrew R T Davies yn cydfynd gyda'u barn nhw

Mae grŵp y Ceidwadwyr yn y Cynulliad wedi ysgrifennu at aelodau o'r Pwyllgor Materion Cymreig yn cwyno ynglŷn â sylwadau Ysgrifennydd Cymru, David Jones.

Wrth roi tystiolaeth i'r pwyllgor ddydd Iau roedd Mr Jones wedi honni mai sylwadau personol oedd rhai Andrew R T Davies pan siaradodd o gydag aelodau'r pwyllgor yn gynharach yn y diwrnod.

Roedd Mr Davies, arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad yn rhoi tystiolaeth gydag arweinwyr y gwrthbleidiau eraill yng Nghymru, Kirsty Williams a Leanne Wood ac yn trafod pwerau treth incwm.

Mi oedd o wedi dweud na ddylai pŵer dros dreth incwm gynnwys cyfyngiadau os yw'n cael ei drosglwyddo i Gymru.

Mae Llywodraeth San Steffan wedi dweud yn barod na fydd gan Lywodraeth Cymru'r hawl i newid bandiau unigol treth incwm. Ond dydy Andrew R T Davies ddim yn cytuno efo hynny.

Yn y llythyr sydd wedi cael ei weld gan BBC Cymru mae'r Aelodau Cynulliad Ceidwadol yn mynnu bod Mr Davies wedi siarad ar ran pawb.

Maen nhw hefyd yn dweud eu bod nhw'n unfrydol wedi pleidleisio o blaid y safbwyntiau gafodd eu gwneud gan Andrew R T Davies yn y sesiwn.