'Dim cyfyngiadau ar bŵer treth incwm'
- Cyhoeddwyd
Ni ddylai'r pŵer dros dreth incwm gynnwys cyfyngiadau os yw'n cael ei drosglwyddo i Gymru, yn ôl arweinwyr pob un o'r gwrthbleidiau.
Roedd Andrew RT Davies (Ceidwadwyr), Leanne Wood (Plaid Cymru) a Kirsty Williams (Democratiaid Rhyddfrydol) yn unfryd y dylai Llywodraeth Cymru gael y pŵer i newid gwahanol raddau treth incwm.
Roedd y tri yn rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor Materion Cymreig ar y Mesur Cymru,
Mae llywodraeth San Steffan wedi dweud nad ydynt yn fodlon rhoi'r hawl i Gymru newid bandiau unigol treth incwm, hyd yn oed wedi pleidlais 'ie' mewn refferendwm.
'Mater o egwyddor'
Dywedodd Mr Davies mai "mater o egwyddor" oedd hyn, felly nad oedd cwestiwn Nia Griffiths ynglŷn â be fyddai'r Ceidwadwyr yn ei wneud efo'r pŵer yn berthnasol.
Er hynny, aeth Mr Davies ymlaen i ddweud y byddai ei blaid yn cynnig gostwng cyfradd uchaf treth incwm yn eu hymgyrch etholiadol i'r Cynulliad petai ganddyn nhw'r pŵer i wneud hynny.
"Rydym yn amcangyfrif y byddai torri ceiniog o'r band 40% yn costio rhwng £10 miliwn a £16 miliwn," meddai.
"Ond mae economïau sydd a llai o dreth yn codi mwy o arian .... felly yn y tymor hir byddwch chi'n dod a mwy o arian i fewn".
Roedd Ms Wood a Ms Williams hefyd yn credu y dylai'r pwer dros dreth incwm gynnwys y gallu i newid gwahanol fandiau.
Doedd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol ddim yn credu bod y ddadl y gallai Lloegr golli allan yn sgil hyn yn reswm digon da dros wrthwynebu.
"Yr hyn sydd o bwys i mi yw'r hyn sydd orau i Gymru. A be sydd orau i Gymru yw derbyn y pwerau heb yr amodau," meddai.
Yn ddiweddar dywedodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones y byddai'r pwer yn "ddiwerth" heb y gallu i amrywio gwahanol fandiau.
Byddai fel "car gyda dim ond un gêr", yn ôl Mr Jones.
Pwerau benthyg
Fe ofynnodd Cadeirydd y pwyllgor hefyd faint o bwerau benthyg oedd yr Aelodau Cynulliad yn credu ddylai Cymru ei gael.
Roedd Ms Williams yn credu y dylai Llywodraeth Cymru gael £1 biliwn, yn hytrach na'r £500 miliwn sy'n cael ei gynnig.
Ond roedd arweinydd y Ceidwadwyr yn fodlon mynd yn bellach, gan ddweud ei fod "eisiau gymaint o hyblygrwydd a phosib" ac felly eisiau bod hyd at £1.2 biliwn ar gael.
Doedd Ms Wood ddim yn fodlon rhoi ffigwr penodol ond dywedodd ei bod eisiau "y mwyafrif sy'n bosib".
Fe wnaeth AS De Caerdydd Stephen Doughty godi'r pwnc o'r gwaharddiad ar ymgeiswyr i'r Cynulliad sefyll ar y rhestr yn ogystal â mewn etholaeth.
Dywedodd: "Mae gwyrdroi'r gwaharddiad yn cael ei alw yn Rheol Leanne, ond mae'n well gen i ei alw'n Gambit German, wedi iddo sefyll yn Nhorfaen, colli, a darganfod ei hun yn ddirprwy brif weinidog.
"Gaf i ofyn i chi - sut mae'r cyhoedd wedi colli allan oherwydd y gwaharddiad yma?"
Dywedodd Ms Wood nad oedd aelod o'r cyhoedd erioed wedi codi'r pwnc gyda hi.
Ychwanegodd: "Yr unig bobl sydd i weld yn cynhyrfu am hyn yw gwleidyddion.
"Dyw e ddim yn urddasol gweld gwleidyddion yn ffraeo ynghylch system etholiadol - ni ddylai hyn gael ei ddefnyddio fel pêl-droed wleidyddol...
"Dydw i ddim yn meddwl ei fod o'n iawn pan mae'r blaid sydd mewn pwer yn bygwth ceisio newid y rheolau."
Fe ddatgelodd Ms Wood yn ddiweddar y byddai hi "mwy na thebyg" yn sefyll ar y rhestr yn ogystal ag yn etholaeth y Rhondda.
Mwy o ACau?
Tuag at ddiwedd y cyfarfod, cododd yr AS Ceidwadol Glyn Davies y pwnc o nifer yr ACau.
Roedd eisiau gwybod os oedd Mr Davies, Ms Wood a Ms Williams yn credu bod angen mwy o Aelodau Cynulliad.
Oes, yn ôl Leanne Wood a Kirsty Williams.
Ond mwy o entrepreneuriaid sydd ei angen ar Gymru yn ôl arweinydd y Ceidwadwyr, nid mwy o wleidyddion.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2014