Gwahardd E-sigarennau i bobl dan 18 oed
- Cyhoeddwyd
Fe fydd cynlluniau i wahardd plant a phobl ifanc dan 18 oed yn Lloegr rhag prynu sigarennau electronig yn berthnasol i Gymru hefyd.
Mae'r symud yn dod wedi i aelodau'r Cynulliad ym Mae Caerdydd gytuno i'r cynnig sy'n caniatáu i gyfraith San Steffan gyflwyno gwaharddiad yng Nghymru yn ogystal â Lloegr.
Mae arbenigwyr yn rhybuddio nad oes neb yn gwybod eto pa niwed y gallai'r dyfeisiau yma eu hachosi.
Maen nhw'n poeni y gallai e-sigarennau, sy'n cael eu defnyddio gan oddeutu 1.3m o bobl ym Mhrydain, fod yn annog pobl ifanc i ddechrau ysmygu.
Mae'r dyfeisiau, sy'n cael eu pweru gan fatris, yn cynnwys ychydig o nicotin ac yn rhyddhau anwedd dwr i ddynwared y teimlad a golwg ysmygu.
Mae'r anwedd yn cael ei ystyried yn llawer llai niweidiol na mwg sigarét a does dim sylweddau peryglus ynddo megis tar.
'Symud ymlaen'
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford: "Nid ydym am weld ein pobl ifanc yn defnyddio'r rhain ac yn symud ymlaen i ddefnyddio rhywbeth tipyn gwaeth".
"Mae'r cynigion sydd o flaen y Cynulliad heddiw, yn fy marn i, yn ymarferol, yn gymesur a, lle mae e-sigarennau mewn cwestiwn, yn rhagofalus."
Mae'r newid yn y gyfraith yn cael eu cyflwyno yn San Steffan drwy ddiwygiad i'r Ddeddf Deulu a Phlant.
Fis diwethaf, dywedodd prif swyddog meddygol Lloegr, yr Athro Fonesig Sally Davies, bod "E-sigarennau yn gallu cynhyrchu cemegau gwenwynig ac mae swm y nicotin a chemegau eraill, gan gynnwys cyflasynnau anwedd, yn amrywio rhwng cynnyrch - gan olygu y gallan nhw fod yn beryglus iawn i iechyd pobl ifanc."
"Ail-normaleiddio'
Dydd Sul, dywedodd Gweinidog Iechyd Cymru, Mark Drakeford, ei fod yn poeni bod sigarennau electronig yn "ail - normaleiddio" ysmygu, a'i fod yn credu bod achos i gael rheolau llymach.
Dywedodd wrth raglen Sunday Politics BBC Cymru ei fod yn "bryderus iawn" am y dyfeisiau ond nad oedd yn gwadu honiadau eu bod yn gallu helpu rhai pobl i roi'r gorau i ysmygu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2014
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2014
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2013
- Cyhoeddwyd3 Medi 2013
- Cyhoeddwyd21 Awst 2013