Dyfodol Plas Madoc yn y fantol
- Cyhoeddwyd
Gallai Plas Madoc gau os na all Cyngor Wrecsam ddarganfod rhywun i'w redeg yn eu lle.
Mae'r cyngor yn chwilio am fenter gymdeithasol i redeg y ganolfan hamdden yn Wrecsam.
Mae'r argymhelliad yn ran o adolygiad o ddarpariaeth hamdden y sir sydd yn dilyn ymgynghoriad ynglŷn â chau Plas Madoc.
Dywedodd y cynghorydd David Griffiths, sydd â chyfrifoldebau dros iechyd a gofal gymdeithasol i oedolion o fewn y cyngor, ei fod wedi derbyn mwy na 2000 o ymatebion yn ystod y cyfnod ymgynghori.
"Mae'r mwyafrif llethol o ymatebion yn gwrthwynebu cau canolfan hamdden Plas Madoc," meddai.
"Fe wnawn beth bynnag y gallwn i helpu. Beth na allwn ei wneud yw'r agwedd ariannol ohono, yn anffodus, oherwydd y toriad yn ein cyllideb."
Dywedodd Mr Griffiths ei fod wedi derbyn cannoedd o e-byst a bod hyn yn dangos bod diddordeb ymhlith y cyhoedd mewn cadw Plas Madoc ar agor.
"'Dw i wir yn credu bod gennych chi bobl allan yna gyda'r brwdfrydedd a'r ewyllys i fynd â hyn ymlaen," meddai.
Os na fydd menter gymdeithasol yn cael ei ffurfio i redeg y ganolfan yna bydd yn cau a ni fydd canolfan newydd yn cael ei adeiladu.
Mae'r Adolygiad Hamdden hefyd yn argymell:
Cau'r Ganolfan Byd Dŵr a darparu cyfleusterau newydd;
Cau'r campfeydd yn Ysgol Clywedog a Queensway a'u trosglwyddo i'r cyfleuster hamdden newydd fydd yn cymryd lle Byd Dŵr;
Trosglwyddo'r cyfleusterau defnydd deuol i'r ysgolion (ac eithrio pwll nofio Ysgol Clywedog);
Trosglwyddo 'r cyfrifoldeb dros weddill y cyfleusterau i Ymddiriedolaeth Hamdden sydd eisoes yn bodoli.
Bydd Bwrdd Gweithredol Cyngor Wrecsam yn trafod y cynlluniau yma ar 11 Chwefror.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2013
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2013