Swyddi am fynd mewn canolfanau hamdden yn Sir Ddinbych
- Cyhoeddwyd
Dywed Cyngor Sir Ddinbych ei bod yn bosib y bydd tri safle hamdden sydd wedi eu cau yn ailagor eto.
Cafodd y safleoedd - yr Heulfan yn y Rhyl, Nova ym Mhrestatyn a Chanolfan Fowlio Gogledd Cymru - eu cau gan fod yr Ymddiriedolaeth sy'n gyfrifol amdanyn nhw ddweud nad oeddynt yn gallu fforddio eu cadw ar agor.
Fe wnaeth cwmni Hamdden Clwyd eu penderfyniad wedi i'r cyngor atal grant o £200,000.
Mae'r canolfannau yn cyflogi tua 120.
Nawr dywed Sir Ddinbych y byddant yn cynnal arolwg o gyflwr y canolfannau hamdden er mwyn gweld a oes modd eu hailagor.
Dywed y cyngor pe bai hyn yn digwydd byddai'r swyddi yn cael eu cynnig gyntaf i'r staff sydd wedi colli eu gwaith.
Cafodd Clwyd Hamdden ei sefydlu gan y cyngor yn 2001 i edrych ar ôl rhai cyfleusterau hamdden. Ond mae'r cyngor wedi tynnu £200,000 o arian yn ôl.
Mewn datganiad, mae Clwyd Hamdden yn dweud nad oes ganddyn nhw unrhyw ddewis rŵan ond cau'r canolfannau.
"Mae'r cyfarwyddwyr yn drist eu bod wedi gorfod gwneud y penderfyniad yma ac yn ddiolchgar i'r holl staff ymroddedig am eu hymdrechion a'r holl gwsmeriaid ffyddlon am ein cefnogi yn ystod y misoedd caled yma."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2014
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2013