Cyngor i gau canolfan hamdden Plas Madoc yn Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Protestio Wrecsam
Disgrifiad o’r llun,

Roedd tua 100 yn protestio cyn i gynghorwyr drafod gwasanaethau hamdden y sir

Mae Cyngor Sir Wrecsam wedi pleidleisio o blaid cau canolfan hamdden Plas Madoc.

Roedd aelodau o fwrdd gweithredol y cyngor wedi pasio'r penderfyniad o saith pleidlais i ddwy, er gwaethaf gwrthwynebiad cryf gan y cyhoedd.

Roedd dros 100 o bobl wedi bod yn protestio yn erbyn y cynllun dadleuol i gau'r ganolfan hamdden yn ystod y prynhawn.

Mae Cyngor Sir Wrecsam yn ceisio arbed £45m dros y pum mlynedd nesaf.

Gobaith o hyd?

Mae'r cyngor llawn angen cytuno ar gyllideb y cyngor ac felly mae ymgyrchwyr yn dweud bod amser a gobaith o hyd iddo gael ei achub.

Ymysg y rhai sy'n gwrthwynebu'r cynllun i gau Plas Madoc mae cyn chwaraewr pêl-droed Cymru, Robbie Savage, oedd yn chwarae yno pan yn blentyn.

Roedd y cyngor wedi dweud y gallai'r ganolfan gael ei rhedeg gan y gymuned, ond roedd cefnogwyr wedi dweud nad oeddynt wedi cael digon o amser i wneud cynlluniau.

Mae'r cyngor heddiw wedi dweud y gwnawn nhw ymestyn yr amser sydd ar gael i bwy bynnag sydd â diddordeb mewn rheoli'r ganolfan ddod i'r fei.

Mae ganddyn nhw rwan tan ddiwedd Mehefin.

'Pendefyniad anodd'

Fis diwethaf, roedd 700 o bobl wedi amgylchynu'r safle mewn protest.

Roedd adroddiad y cyngor yn cydnabod bod y ganolfan yn "adnodd gwerthfawr" sy'n "cyfrannu tuag at iechyd" yn yr ardal.

Ond dywedodd yr adroddiad bod y cyngor yn wynebu toriadau mawr i'w gyllideb, a chostau cynnal a chadw o £2m ar draws canolfannau hamdden y sir.

"Mewn amgylchiadau arferol, dymuniad y cyngor fyddai cadw a buddsoddi ym mhob un o'i wasanaethau," meddai'r adroddiad.

"Ond, mae cynghorwyr wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn er mwyn gwneud yr arbedion syn angenrheidiol yn y tymor byr, tra'n ceisio sicrhau dyfodol i wasanaeth hamdden lai yn y sir yn y tymor canol i hir."

Mae'r adroddiad yn dweud y bydd rhaid cau Plas Madoc a phwll nofio Waterworld rhyw ben, ac na fydd y cyngor mewn sefyllfa i dalu am gyfleusterau newydd i'r ddau safle, oherwydd cyfyngiadau ariannol.

Yn y cyfamser, dywed y cyngor nad oes arian i dalu am waith cynnal a chadw i'r adeiladau a rhoi cymhorthdal i'r busnesau, yn enwedig Plas Madoc.